
Mae’r dodrefn miniatur yma sydd yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif yn fath o degan y buasai cannoedd o blant wedi ei dderbyn Nadolig. Fel y teganau gorau, maent yn galluogi’r plentyn i ddychmygu bywyd gwahanol ble maent yn gallu creu eu storïau eu hunain, gan ddefnyddio doliau a theganau meddal.
Mae hefyd yn dweud y stori am fasnach ryngwladol a gôr ddatblygu adnoddau naturiol.
Gwnaethpwyd y set fach yma yn bennaf o goed ratan, palmwydden dringo hyblyg sydd yn tyfu yn fforestydd glaw De-ddwyrain Asia. Mae angen cefnogaeth y coed fforest ac mae gyda chanol soled. Mae yna bron i 600 gwahanol fathau o ratan, ond dim ond 20% ohonynt sydd yn cael eu defnyddio i wneud dodrefn, basgedi a chansenni. Prosesir ratan crai i wneud sawl cynnyrch sydd yn cael eu gwerthfawrogi am eu hysgafnder, gwydnwch a hyblygrwydd, er enghraifft defnyddir y rhisgl i wneud cansenni. Er gwaethaf ymdrechion i ffermio ratan yn fasnachol, daw’r rhan fwyaf ohono dal o blanhigion sydd yn cael eu cynaeafu’n wyllt ac oherwydd bygythiadau parhaol o ddatgoedwigo ac ecsbloetio mae cynnyrch bellach yn brin. Yn y gorffennol roedd yn ddeunydd cyffredin ac fe’i hadnabyddid yn ôl y lle yr oedd yn dod o fel Malacca neu cansen Manilla.
Heddiw mae teganau tebyg yn cael eu gwneud allan o blastig anniraddiadwy – mae’n debyg y bydd y math yma o blastig yn waharddedig mewn 50 mlynedd. Beth fydd deunyddiau’r dyfodol? Beth fydd anrhegion Nadolig y cenedlaethau nesaf o blant yn cael eu gwneud allan o?
Gellir gweld yr eitem yma yn arddangosfa CASGLU A CHADW yn STORIEL hyd nes 31 Rhagfyr, 2021.