
Mae’r ddesg bren collen Ffrengig hon o ddiwedd yr 18eg ganrif yn Iseldireg, neu o bosibl Seisnig gyda dylanwad Iseldireg. Mae wedi’i addurno ag argaen pren collen Ffrengig a phatrymau argaenwaith mewn pren goleuach. Mae wedi’i batrymu â motiffau blodeuog a sgroliau. Mae blaen y ddesg hefo caead wedi’i addurno â dwy arfbais arddulliedig sy’n cael eu dal gan ddau greadur tebyg i gryffon. Mae’r caead yn plygu i lawr i ffurfio arwyneb gwastad ar gyfer ysgrifennu.
Mae’r ddesg yma yn rhan o gasgliad o ddodrefn ac arteffactau o Ynysgain Uchaf ger Cricieth, Dwyfor. Gadawyd y dodrefn i’r Amgueddfa yn 1959 gan y Anne Eaden, cyfeilles a chymdeithes i Dorothea Pughe-Jones, yr olaf o deulu’r Jonesiaid i fyw yn Ynysgain. Bu i’r teulu drigo yno ers 1669, ond mae’r tŷ ei hun ychydig yn hŷn gan fod cofnod o guddio aur yn un o’r muriau yn 1646 yn ystod y Rhyfel Cartref.
Argaenwaith yw’r grefft o dorri a gosod darnau o argaen i greu gorffeniad addurniadol. Tarddodd y math yma o addurno yn yr Eidal yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ond daeth yn boblogaidd iawn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae argaenwaith arddull blodau yn nodweddiadol Iseldireg, a daeth i amlygrwydd ym Mhrydain tua 1675 yn gyntaf gan ddefnyddio’r un dyluniadau. Gan fod angen crefftwyr medrus i wneud yr eitemau hyn roeddent yn ddrud ac nid oeddent ar gael i ddosbarthiadau is o gymdeithas. Byddai’r mathau o bren a ddefnyddiwyd yn yr argaen yn golygu bod pob darn yn cael ei brisio yn ôl gwerth y pren argaen. Byddai argaenwaith gwerthfawr wedi’i wneud mewn pren mahogani, rhosyn neu gollen Ffrengig. Byddai’r gwrthrychau llai costus wedi’u gwneud o binwydd, derw a llwyfen.
Mae’r ddesg yma yn y storfa ar y funud ond mae dodrefn eraill o gasgliad Ynysgain yn cael eu harddangos mewn arddangosfa dros dro yn Storiel.