
Roedd maint a siâp y cymysgwr llymru a’r enw yn amrywio o ardal i ardal. Gelwid ef yn bren llymru yn Sir Gaernarfon ac yn rhwtffon yn Sir Feirionnydd.
Mae’r cymysgwr llymru yn declyn medrus a ddefnyddiwyd i wneud llymru, cawl sur a wnaethpwyd o had ceirch ac a fwytawyd yn eang tan ddechrau’r 20fed ganrif yng ngogledd Cymru. Ceirch oedd y cnwd tir âr pwysicaf a dyfwyd mewn amgylchedd oer a gwlyb yn y rhan fwyaf o ogledd Cymru, ac roedd cawliau a phrydau gwahanol wedi eu selio ar geirch yn rhan bwysig o ddiet cymunedau gwledig.
Gwnaethpwyd llymru mewn sawl cam. Mwydwyd plisg ceirch wedi eu malu yn fân oedd yn cynnwys had ceirch mewn dŵr claear o fewn potyn priddlestr mawr. Trowyd y cymysgedd yn iawn a’i adael am 3 neu 4 diwrnod nes bod lefel y surni wedi cael ei gyrraedd. Roedd wedyn yn cael ei hidlo drwy ridyll gwallt ceffyl mewn i bowlen arall, yn barod i’w ddefnyddio fel oedd angen dros y dyddiau nesaf. Bwydwyd y plisg ceirch a oedd wedi cael eu gwasgu i’r anifeiliaid. Ar gyfer cam terfynol y paratoad, berwyd y cymysgedd dros dân poeth a’i droi’n gyson nes ei fod yn cyrraedd trwch tebyg i jeli.
Roedd y cymysgwr llymru yn declyn hanfodol – roedd hyd y pren a’i blygion yn golygu bod y cymysgedd yn gallu cael ei droi’n egnïol dros dân poeth nes ei fod yn barod heb fynd yn rhy agos. Er mwyn profi’r trwch codwyd y cymysgwr llymru ac aseswyd sut yr oedd y llymru’n diferu’n ôl i’r potyn – mewn rhai rhannau o Sir Feirionnydd dywedwyd y dylai’r cynffon fod fel cynffon llygoden.
Pan oedd yn barod ffordd gyffredin o’i fwyta oedd ei dywallt i mewn i bowlen a rhoi ateg arbennig yng nghanol y bwrdd iddo. Buasai pob person efo eu powlen eu hunain o lefrith oer a buasent efo’u llwy bren eu hunain yn cymryd llond llwy o lymru cynnes a’i roi’n araf yn eu llefrith. Dylai’r llymru gael ei lyncu heb gael ei gnoi – roedd dywediad lleol ‘llithro i lawr, byth dod fyny’.
Ystyriwyd llymru fel bwyd maethlon yn ogystal â bod yn flasus ac yn adfywiol. Meddyliwyd ei fod yn fuddiol ar gyfer afiechydon yr arennau, a rhoddwyd powlenni i bobl fregus a hŷn fel danteithfwyd i adfywio eu harchwaeth.
Mae’r cymysgwr llymru yn cael ei arddangos yn y cas Y Cartref yn Oriel 4.