Cwilt Chwarelwr

Roedd y cwilt yma, c. 1900, yn eiddo i chwarelwr a fu’n gweithio yn Chwarel Dinorwig, Llanberis ac yn byw yn y barics yn ystod yr wythnos. 

Teithiau dynion o wahanol gymunedau ar draws Gwynedd a Môn i weithio yn y chwarel. I nifer roedd yn rhy bell i deithio adref bob nos. Byddant yn aros mewn barics yn yr wythnos ac, fel arfer, yn dychwelyd adref ar y penwythnos. Rhesi neu grwpiau o dai bychan cyntefig dwy ystafell oedd y barics a adeiladwyd gan berchnogion y chwarel i’r gweithwyr. Cawsant eu goleuo gan gannwyll neu lamp baraffin a thân glo fyddai ar gyfer coginio a chynhesu’r tŷ. Roedd y barics yn arbennig o oer yn y gaeaf. Roedd cyflwr byw yn wael iawn gyda chwain a llygod mawr yn gyffredin. Y rhent oedd un swllt y mis, byddant hefyd yn talu am eu glo a dod a dillad gwely eu hunain. Wedi dychwelyd i’r barics ar ddydd Llun byddant yn crasu eu gwelyau gan roi bricsen boeth o dan eu dillad gwely.

Mae’r cwilt wedi ei wneud o glytiau o ddeunydd gwlân siwtio, wedi’u pwytho’n fras gyda pheiriant gwnïo. Mae llythrennau enw cyntaf y perchennog neu’r gwneuthurwr wedi’u brodio mewn un cornel, ‘R R’, wrth ymyl label tâp mewn llawysgrifen wedi’i farcio ‘3 Libanus’. Ni wyddys at beth y mae ‘Libanus’ yn cyfeirio, ond gallai fod yr enw a roddwyd ar farics penodol neu’n enw ar gapel lleol.

Cyn iddo gael ei roi defnyddiwyd y cwilt mewn gwely fel gorchudd ar gyfer sbringiau metel pigog o dan y fatres.

Mae’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yn Storiel fel rhan o’r arddangosfa Gwsg o fis Medi 2023 i fis Mawrth 2024.