Curwr Drws, y Coleg Normal, Bangor, 1920au

Yn ddiweddar, cyfranwyd nifer o eitemau’n ymwneud â’r Coleg Normal, Bangor, o archifau’r Coleg , i Storiel.

Un o’r pethau mwyaf diddorol yw’r curwr hwn a oedd yn hongian ar ddrws y warden. Daeth y rhoddwr gwreiddiol o hyd i’r curwr mewn cwpwrdd mewn garej yn Northampton. Roedd tad y rhoddwr yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yn y 1920au ac, yn ystod wythnos Rag, aeth i mewn i un o neuaddau preswyl merched y Coleg Normal a thynnu’r curwr oddi ar ddrws y warden. Dros 80 o flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd y mab ei ddychwelyd i Fangor.

Ymhlith yr eitemau eraill mae blazer, sgarffiau, llestri a thariannau.