Cracers Nadolig

Mae cracers yn arferiad Nadoligaidd traddodiadol sydd yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Fictorianiadd. Yn cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o gartrefi dros y Nadolig, mae’r addurniadau bwrdd Nadoligaidd hyn yn gwneud sŵn clecian pan maent yn cael eu tynnu ar agor, ac yn aml maent yn cynnwys anrheg fach, het bapur a jôc.

Dyfeisiwyd cracers Nadolig yn 1847 gan y cyffeithiwr a phobydd o Lundain, Tom Smith. Wrth ymweld â Pharis, daeth ar draws y melysion bôn bôn Ffrengig, almon siwgr wedi’i lapio mewn papur sidan. Ceisiodd werthu melysion tebyg ar ôl dychwelyd i Lundain, ond canfu mai dim ond tua’r Nadolig yr oeddent yn boblogaidd. Er mwyn annog gwerthiant trwy gydol y flwyddyn, ychwanegodd arwyddair cariad bychan neu bos yn y papur lapio.

Cafodd Tom ei ysbrydoli i ychwanegu’r sŵn pop ffrwydrol ar ôl clywed sŵn clecian tân coed a pherffeithiodd y mecanwaith yma yn yr 1860au. Roedd yn defnyddio dau stribed cul o bapur wedi’u haenu gyda’i gilydd, hefo ffwlminad arian wedi ei beintio un ochr ac arwyneb sgrafellog ar yr ochr arall – wrth gael eu tynnu, roedd y rhwbiad yn creu ffrwydrad bychan. Roedd yn rhaid cynyddu maint y papur lapio i gynnwys y mecanwaith clecian ac yn y pen draw disodlwyd y melysion hefo tlysau, gem weithiau ac eitemau eraill. Fe’i hadnabuwyd yn wreiddiol fel cosaques ar ôl y milwyr Cosac oedd hefo enw da o danio gynau yn yr awyr, daeth y gracer onomatopeig wedyn yn enw cyffredin.

Ychwanegwyd elfennau eraill o’r gracer – y rhoddion, hetiau papur a’r dyluniad gan fab Tom, Walter Smith. Teithiodd y byd yn chwilio am syniadau newydd am roddion i’w rhoi yn y craceri. Efallai bod yr hetiau coron papur wedi cael eu hysbrydoli gan gacennau Ystwyll o Ewrop, a oedd yn aml wedi cael eu haddurno hefo coron papur ar eu pen. Erbyn yr 1930au, disodlwyd y cerddi serch gan jôcs. Daeth craceri newyddbeth a ddefnyddiwyd mewn dathliadau gwahanol hefyd yn boblogaidd ac roedd y rhain yn aml yn dilyn tueddiadau cyfoes.

Mae’r cracers coeden Nadolig bach yma o’r 1950au yn eu bocs gwreiddiol ac yn cynnwys swyn dlysau, cleciadau ac arwyddeiriau.