Cwpwrdd tridarn

Gwnaethpwyd y darn yma o ddodrefn o dderw ac mae’n dyddio i ganol yr 17fed ganrif. Mae ‘1571’ wedi cael ei gerfio ar y blaen sydd yn gwneud y darn yma o bosib dros gan mlynedd ar ôl y dyddiad yma. Efallai bod hyn wedi cael ei wneud er mwyn i’r eitem ymddangos yn hyn nag ydoedd, ac yn y pen draw yn ei wneud yn fwy gwerthfawr.

Mae’r cwpwrdd tridarn yma yn rhan o gasgliad o ddodrefn ac arteffactau o Ynysgain Uchaf ger Cricieth, Dwyfor. Gadawyd y dodrefn i’r Amgueddfa yn 1959 gan Anne Eaden, cyfeilles a chymdeithes i Dorothea Pughe-Jones, yr olaf o deulu’r Jonesiaid i fyw yn Ynysgain. Bu i’r teulu drigo yno ers 1669, ond mae’r tŷ ei hun ychydig yn hŷn gan fod cofnod o guddio aur yn un o’r muriau yn 1646 yn ystod y Rhyfel Cartref.

Mae’r cwpwrdd mewn tri darn. Defnyddiwyd y darnau gwaelod a’r canol ar gyfer storio dillad, llestri cegin a bwyd tra’r oedd y darn top yn cael ei ddefnyddio i arddangos crochenwaith, piwter a thrysorau teulu eraill. Yn draddodiadol buasai’r darn top yn gallu cael ei dynnu i lawr a’i ddefnyddio fel mainc.

Cyflwynwyd y cwpwrdd tridarn yn wreiddiol mewn ffurf cwpwrdd storio yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a daeth yn boblogaidd a’i hadnabod fel cwpwrdd deuddarn. Datblygwyd y darn o ddodrefn yma ymhellach i’r cwpwrdd tridarn drwy ychwanegu darn arall ar ei dop. Mae’r cwpwrdd tridarn yn draddodiadol Cymreig o ran ei gymeriad, efo’r cwpwrdd deuddarn yn fwy poblogaidd yn Lloegr. Roedd cypyrddau tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal o gwmpas, ac fe’u darganfuwyd yn nhai ffermwyr cyfoethog a’r boneddigion. Gorffennwyd cynhyrchu cypyrddau tridarn erbyn y 1770au, ond bu iddynt barhau mewn cartrefi ar ôl hyn.

Mae’r cwpwrdd tridarn yma’n cael ei arddangos yn Oriel 3, ac mae dodrefn eraill o gasgliad Ynysgain yn cael eu harddangos mewn arddangosfa dros dro yn Storiel.