Cot dyffl

Defnyddiwyd y got dyffl yma, wedi ei gwneud o wlân trwchus ffeltiog, gan Michael Wyn (1917-1998) a adnabuwyd fel ‘Micky Wynn’, 7fed  Barwn yr Arglwydd Newborough, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn arwr rhyfel addurnedig ac yn garcharor Colditz. Yn 1942 chwaraeodd ran dyngedfennol yn Ymgyrch Chariot, ymosodiad môr ysblennydd a beiddgar ar borthladd St Nazaire, yn ystod pryd cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr.

Fe’i ganwyd yn fab hynaf Syr Robert Vaughan Wynn, 6ed Barwn Newborough, ac fe’i addysgwyd yn ysgol Oundle. Gwasanaethodd efo’r Fyddin Brydeinig (1935-40) ac efo gwirfoddolwyr wrth gefn y Llynges Frenhinol (1941-46) cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl y rhyfel dychwelodd i ffermio a daeth yn Uwch Siryf Sir Feirionnydd yn 1963. Olynodd ei dad fel yr Arglwydd Newborough yn 1965. Yn 1971, gwerthodd Ynys Enlli i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Roedd Stâd Glynllifon yn perthyn i’r Arglwyddi Newborough cyn iddo gael ei werthu yn y 1950au.

Cynhyrchwyd y cotiau dyffl cyntaf gan John Partridge, gwneuthurwr dillad allan yn y 1850au. Fe’i defnyddiwyd gan y Llynges a’r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd eu bod yn amddiffyn yn erbyn y tywydd llym heb gyfyngu ar symudiad. Gall dynion o unrhyw reng wisgo’r un got.

Gellir gweld yr eitem yma yn arddangosfa CASGLU A CHADW yn STORIEL hyd nes 31 Rhagfyr, 2021.