
Coron enillwyd gan R Silyn Roberts (1871-1930) am ei waith ‘Trystan ac Esyllt’ yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1902. Yn ogystal â bod yn fardd, yn weinidog ac yn ddiwygiwr cymdeithasol,R Silyn Roberts oedd Curadur Anrhydeddus cyntaf yr amgueddfa hon. Bu’n diwtor efrydiau allanol yng Ngholeg Bangor ac ym 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Roedd yn gredwr brwd mewn cyfleodd addysg i oedolion.