Corn cragen

Mae’r gragen strombus neu gragen tro anferth yma’n cynhyrchu sain uchel iawn tebyg i seiren pan gaiff ei chwythu’n gywir. Fe’i defnyddiwyd i fyny hyd at yr 19eg ganrif i alw’r gweithwyr fferm i mewn o’r caeau er mwyn cael egwyl. Defnyddiwyd un allan o’r pump sydd yng nghasgliad Storiel gan fecws yn y pentref i adael i’r pentrefwyr gael gwybod bod y popty yn ddigon poeth i fara cael ei bobi.

Mae cregyn malwod môr, sef molysgiaid gastropod morol yn aml yn cael eu defnyddio fel offerynnau chwyth gan fod cregyn y rhan fwyaf o’r rhain wedi’u troelli’n dorchog hefo blaen hir, main. I baratoi’r gragen ar gyfer cael ei chwythu, llifiwyd darn miniog, pigfain i ffwrdd a’i lyfnu i wneud darn ceg wastad a chyfforddus. Yn yr un modd a chwarae trymped, gellid creu nodau gwahanol drawiadau yn dibynnu ar sgil y chwaraewr.

Mae’n debyg mai cyrn cregyn fel hyn yw un o’r offerynnau cerdd hynaf a wnaethpwyd gan ddyn. Mae’r corn cragen hynaf sydd wedi goroesi y gwyddys amdano yn 17,000 mlwydd oed ac fe’i darganfuwyd mewn ogof gyda phaentiadau wal cynhanesyddol yn Ffrainc. Gellir cynhyrchu nodyn o hyd.

Mae’r cregyn conch mawr yma’n dod o’r Caribî. Cawsant eu cludo’n ôl gan longau ar eu teithiau’n ôl o gludo Affricanaidd caethiwed o arfordir gorllewinol Affrica i blanhigfeydd siwgr y Caribî.

Mae rhai cyrn cregyn trymped yng nghasgliad offerynnau Mecsicanaidd Crossley-Holland sydd yn cael ei gadw yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.