Peiriant crychu / Goffering machine
- Accession no: B-43/32
- Name: Peiriant crychu / Goffering machine
- Description: Roedd yr offeryn bach domestig yma'n cael ei ddefnyddio i wneud pletiau rheolaidd neu grychiadau ar ymyl cotwm neu liain y gellid ei ddefnyddio fel ymyl i gapiau a bonedi merched. Roedd coleri, ymylon sgertiau a llewys hefyd yn cael eu crychu. Er mwyn cadw'r pletiau byddai'r defnydd llaith yn cael ei startsio cyn ei grychu. Roedd defnydd llaith yn cael ei troi rhwng y cwils a'i ddal yn ei le tra oedd yn sychu. Roedd hyn yn gwneud pletiau neu grychau mân. Mae'r peiriant yma'n nodweddiadol o'r math o ddyfeisiadau Fictoraidd domestig oedd yn gwneud y dasg adref fymryn yn gyflymach.
This small domestic laundry gadget was used to make regular pleats or crimps in a length of cotton or linen edging that could be used to trim women's caps or bonnets. Collars, skirt edgings and sleeves were also goffered. To retain the pleated effect the damp material would be starched before goffering. Damp material was wound between the quills, then secured in position whilst the material dried. The finished effect was a fine pleat or crimp.This machine is typical of the type of domestic Victorian invention that made a household task slightly quicker. - Summary Description: Pren; 2 ddarn cyfochrog ar i fyny gyda sianeli ar y tu mewn i ddal 2 res o gwilsenni pren, gellir ei dynnu i ffwrdd; wedi ei ddal yn ei le gyda darn croes sy'n llithro i fyny ac i lawr y darnau sydd ar i fyny; mae'n sefyll ar flwch pren gwag gyda stopiwr yn un pen; peiriant a ddefnyddwyd i grychu addurniadau les a chotwm; tra'u bod yn wlyb byddent yn cael eu plygu o amgylch y cwilsenni rhwng y darnau sydd ar i fyny. Wooden; 2 parallel uprights with channels on inside to hold 2 rows of wooden quills, removable; held in place by removable cross piece that slides up and down uprights; stands on hollow wooden canister with stopper at one end, used for storing quills; machine used to crimp lace and cotton trimmings, while still wet folded around quills between uprights.
- Size: lled / width 40cm
uchder / height 43.3cm - Classification: Laundry equipment