Cerfiad Ffleminaidd Canoloesol: Y Tri Gwr Doeth / Medieval Flemish Carving: Adoration of the Magi
- Accession no: B-4007/41
- Name: Cerfiad Ffleminaidd Canoloesol: Y Tri Gwr Doeth / Medieval Flemish Carving: Adoration of the Magi
- Description: Cerfwedd anghyflawn, o bosib o asgell neu ochr allor. Mae'r gwaith yn dangos y tri brenin neu'r Dynion Doeth o'r Dwyrain yn addoli'r Baban Iesu, sydd ar lin ei fam. Mae'r unig frenin a welir yn anghyflawn a'r ddau arall ddim yno o gwbl. Fe'i cerfiwyd mae'n debyg yng ngogledd Bwrgwyn yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif.
Ar ôl y Diwygiad Protestannaidd yn y 16eg ganrif, tynnwyd gweithiau celf a cherfiadau arddurnedig o nifer o eglwysi. Datblygodd marchnad i'r rhain drwy Ewrop. Roedd y cerfiad yma'n rhan o Gasgliad Amgueddfa Capten Jones. Roedd John Jones (1798 - 1876) yn gapten llwyddiannus o Lerpwl a fu'n casglu pethau o bedwar ban byd ac a sefydlodd ei amgueddfa ei hun ym Mangor yn 1848 wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr, ar waelod Lon Pobty. Yn 1870, rhoddwyd yr amgueddfa i Ddinas Bangor ac yn 1909 symudodd i ystafelloedd a oedd newydd eu codi y tu ôl i'r llyfrgell newydd yn Ffordd Gwynedd. Yn 1940 cafodd yr Amgueddfa yr unig bethau oedd ar ôl o gasgliad Dinas Bangor.
Incomplete carved relief, possibly from the wing or side-piece of an altar. The work shows the three kings or Wise Men from the East adoring the Christ Child, seen on his mother's knee. The one king shown is incomplete and the other two kings are missing. Probably carved in north Burgundy during the second half of the fifteenth century.
After the Protestant Reformation in the 16th century many churches were stripped of works of art and ornate carvings. A market developed for these throughout Europe. This carving was part of the Captain John Jones Museum Collection. John Jones (1798 - 1876) was a successful Liverpool master mariner who collected objects from all around the world, and set up his own museum in Bangor in 1848 located on the High Street, at the bottom of Lon Pobty. In 1870, the museum was given to the City of Bangor and in 1909 it moved to newly built rooms behind the new library in Ffordd Gwynedd. In 1940 the Museum received all that remained of the Bangor City collection. - Summary Description: Pren wedi ei beintio'n wreiddiol, nawr yn frown tywyll hefo olion paent oren.
Wood originally painted, now dark brown with traces of orange paint. - Date: 15fed ganrif / 15th century
- Copyright: Storiel