Dol / Doll
- Accession no: B-2011/3
- Name: Dol / Doll
- Description: Dol Sindy o'r 1960au.
Mae doliau yn gyfarwydd fel y teganau mwyaf cyffredin a phoblogaidd. Gwnaethpwyd y doliau cynnar o'r 15eg ganrif allan o ddeunydd fel clai neu bren. Ymddangosodd doliau gwyr yn ystod yr 17eg ganrif ac erbyn 1800 cyflwynwyd doliau cyfansoddiad a adnabyddwyd fel papier-mâché. O ganol yr 19eg ganrif, cynhyrchwyd doliau porslen neu tseina, yn bennaf yn yr Almaen a Ffrainc a defnyddiwyd bisque (porslen heb ei wydro) i greu wynebau cain. Gwnaethpwyd cyrff y doliau allan o ledr neu pren, ac yn ddiweddarach defnydd. O ddechrau'r 20fed ganrif, bu i wneuthurwyr ddefnyddio y deunydd synthetig seliwlod i greu doliau a defnyddiwyd deunydd cryf fel finyl a plastig yn ail hanner y ganrif.
Sindy doll from the 1960s.
Dolls are familiar as one of the most common and popular form of toys. Early dolls from the 15th century were made of material such as clay or wood. Wax dolls appeared during the 17th century, and by around 1800 composition dolls, also know as papier-mâché were introduced. From the mid 19th century, porcelain or china dolls were produced, mainly in Germany and France and bisque (unglazed porcelain) was also used to create delicate faces. Dolls' bodies were made of leather or wood, and later cloth. From the early 20th century, manufacturers used the synthetic material celluloid for dolls and used durable materials such as vinyl and plastic in the second half of the century. - Summary Description: Plastig, tal, ysgwyddau a chluniau cymalog; gwddf yn troi, corff yn oren / pinc caled; pen o blastig meddalach, wedi newid lliw i lwyd / gwyrdd; gwallt melyn neilon at yr ysgwyddau; llygaid glas anferth llonydd; tu ôl i'r pen a thop y cefn wedi ei argraffnodi efo 'IDEAL TOY CORP. BS-12' efo'r ychwanegiad 'MADE IN JAPAN' ar y cefn.
Plastic, tall; jointed shoulders and hips; swivelling neck; body hard orangey/pink; head softer plastic, grey/green discolouration; shoulder length nylon blonde hair; large fixed blue eyes; back of head and top of back imprinted with 'IDEAL TOY CORP. BS-12' with the addition of 'MADE IN JAPAN' on back. - Date: 1960au / 1960s
- Size: h29cm
- Copyright: Storiel