Medal Eisteddfod / Eisteddfod medal
- Rhif Derbynoli: B-2005/62/3
- Rhif Cyfeirnod: B-2005/62/3
- Enw: Medal Eisteddfod / Eisteddfod medal
- Disgrifiad: Yn perthyn i Eben Fardd
Ganwyd Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) yn Nhanlan ger Llangybi, Eifionydd. Gwehydd oedd ei dad ac roedd Ebenezer hefyd yn hyfedr yn y grefft. Bu'n rhedeg ysgolion yn Llangybi, Llanarmon ac yn ddiweddarach symudodd i bentref Clynnog Fawr i edrych ar ôl yr ysgol. Yn 1842 torrodd pob cysylltiad â'r Eglwys gan sefydlu ysgol yn ei gartref yng Nghlynnog. Symudwyd yr ysgol i'r capel yn 1845.
Magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth o oedran ifanc ac roedd yn adnabod beirdd eraill enwog Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion. Enillodd yn Eisteddfod Powys, Y Trallwng yn 1824 am ei awdl 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. Yn 1840 enillodd yn Eisteddfod Lerpwl am ei awdl 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. Fe'i ystyriwyd yn ei ddydd yn un o feirdd blaenllaw Cymru. Yn ogystal at ennill mewn eisteddfodau, ysgrifennodd amryw gerdd arwrol, penillion achlysurol, casgliad o emynau a chyfrannodd yn helaeth i gyfnodolion y cyfnod.
Belonged to Eben Fardd
Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) was born in Tanlan, near Llangybi, Eifionydd. His father was a weaver and Ebenezer also became proficient in the craft. He managed schools in Llangybi, Llanarmon and and he later moved to the village of Clynnog Fawr to be in charge of the school there. In 1842 he broke all ties with the Church and established a school at his home in Clynnog. This school was moved to the chapel in 1845.
He became interested in poetry at an early age and was acquainted with other well known poets in Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu and Dewi Wyn o Eifion. He won at the Powys Eisteddfod, Welshpool in 1824 for his ode 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. In 1840 he won at the Liverpool Eisteddfod for his ode 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. He was regarded in his day as one of Wales's foremost poets. As well as winning at eisteddfodau, he wrote several epic poems, occasional verse, a collection of hymns and contributed extensively to periodicals of the time. - Disgrifiad byr: Arian, wedi ei wobrwyo am lenyddiaeth. Ymyl wedi ei addurno hefo dail a mwyar. Arysgrif ar y tu blaen canol 'EISTEDDFOD GADEIRIOL Y GORDOFIGION' hefo dyluniad dyn wedi ei arysgrifio yn y canol. Oddi tanodd arysgrif 'LLERPWLL. MEHEFIN 1840'. Y tu chwith 'AM Y CHWECH PENNILL GOREU HIR A THODDAID AR "ESGYNIAD ELIAS I'R NEF" CAS GWR NI CHARD Y WLAD AI MACO'. Marc dilysnod arian oddi tanodd. Agoriad ar dop y fedal i'w hongian.
Silver, awarded for literature. Border decorated with leaves and berries. Centre front inscribed 'EISTEDDFOD GADEIRIOL Y GORDOFIGION' with a drawing of a man inscibed in centre. Below inscibed ' LLERPWLL. MEHEFIN 1840'. On reverse 'AM Y CHWECH PENNILL GOREU HIR A THODDAID AR "ESGYNIAD ELIAS I'R NEF" CAS GWR NI CHARD Y WLAD AI MACO'. Silver hall mark below. Slit at top of medal for hanging. - Dyddiad: 1840
- Maint: diameter 6.3cm x d0.3cm
- Hawlfraint: Storiel