Medal Eisteddfod / Eisteddfod medal
- Rhif Derbynoli: B-2005/62/1
- Rhif Cyfeirnod: B-2005/62/1
- Enw: Medal Eisteddfod / Eisteddfod medal
- Disgrifiad: Yn perthyn i Eben Fardd
Ganwyd Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) yn Nhanlan ger Llangybi, Eifionydd. Gwehydd oedd ei dad ac roedd Ebenezer hefyd yn hyfedr yn y grefft. Bu'n rhedeg ysgolion yn Llangybi, Llanarmon ac yn ddiweddarach symudodd i bentref Clynnog Fawr i edrych ar ôl yr ysgol. Yn 1842 torrodd pob cysylltiad â'r Eglwys gan sefydlu ysgol yn ei gartref yng Nghlynnog. Symudwyd yr ysgol i'r capel yn 1845.
Magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth o oedran ifanc ac roedd yn adnabod beirdd eraill enwog Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion. Enillodd yn Eisteddfod Powys, Y Trallwng yn 1824 am ei awdl 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. Yn 1840 enillodd yn Eisteddfod Lerpwl am ei awdl 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. Fe'i ystyriwyd yn ei ddydd yn un o feirdd blaenllaw Cymru. Yn ogystal at ennill mewn eisteddfodau, ysgrifennodd amryw gerdd arwrol, penillion achlysurol, casgliad o emynau a chyfrannodd yn helaeth i gyfnodolion y cyfnod.
Belonged to Eben Fardd
Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) was born in Tanlan, near Llangybi, Eifionydd. His father was a weaver and Ebenezer also became proficient in the craft. He managed schools in Llangybi, Llanarmon and and he later moved to the village of Clynnog Fawr to be in charge of the school there. In 1842 he broke all ties with the Church and established a school at his home in Clynnog. This school was moved to the chapel in 1845.
He became interested in poetry at an early age and was acquainted with other well known poets in Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu and Dewi Wyn o Eifion. He won at the Powys Eisteddfod, Welshpool in 1824 for his ode 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. In 1840 he won at the Liverpool Eisteddfod for his ode 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. He was regarded in his day as one of Wales's foremost poets. As well as winning at eisteddfodau, he wrote several epic poems, occasional verse, a collection of hymns and contributed extensively to periodicals of the time. - Disgrifiad byr: Arian, wedi ei gwobrwyo am lenyddiaeth. Llun o ddyn yn dal fflag wedi ei arysgrifio ar un ochr. Y tu chwith plaen ar wahân i farc arian. Twll bychan at ben y fedal. Ymyl y fedal wedi codi.
Silver, awarded for literature. Drawing of man holding flag inscibed on one side. Reverse is plain except for silver mark. Small hole at top of medal. Rim of medal is slightly raised. - Dyddiad: 19eg ganrif / 19th century
- Maint: Diameter 6.9cm x d 0.5cm
- Hawlfraint: Storiel