Chwyddwydr / Sbectol ddarllen
- Accession no: B-2005/60/1-2
- Name: Chwyddwydr / Sbectol ddarllen
- Description: Yn perthyn i Eben Fardd.
Ganwyd Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) yn Nhanlan ger Llangybi, Eifionydd. Gwehydd oedd ei dad ac roedd Ebenezer hefyd yn hyfedr yn y grefft. Bu'n rhedeg ysgolion yn Llangybi, Llanarmon ac yn ddiweddarach symudodd i bentref Clynnog Fawr i edrych ar ôl yr ysgol. Yn 1842 torrodd pob cysylltiad â'r Eglwys gan sefydlu ysgol yn ei gartref yng Nghlynnog. Symudwyd yr ysgol i'r capel yn 1845.
Magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth o oedran ifanc ac roedd yn adnabod beirdd eraill enwog Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion. Enillodd yn Eisteddfod Powys, Y Trallwng yn 1824 am ei awdl 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. Yn 1840 enillodd yn Eisteddfod Lerpwl am ei awdl 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. Fe'i ystyriwyd yn ei ddydd yn un o feirdd blaenllaw Cymru. Yn ogystal at ennill mewn eisteddfodau, ysgrifennodd amryw gerdd arwrol, penillion achlysurol, casgliad o emynau a chyfrannodd yn helaeth i gyfnodolion y cyfnod.
Belonged to Eben Fardd.
Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) was born in Tanlan, near Llangybi, Eifionydd. His father was a weaver and Ebenezer also became proficient in the craft. He managed schools in Llangybi, Llanarmon and and he later moved to the village of Clynnog Fawr to be in charge of the school there. In 1842 he broke all ties with the Church and established a school at his home in Clynnog. This school was moved to the chapel in 1845.
He became interested in poetry at an early age and was acquainted with other well known poets in Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu and Dewi Wyn o Eifion. He won at the Powys Eisteddfod, Welshpool in 1824 for his ode 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. In 1840 he won at the Liverpool Eisteddfod for his ode 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. He was regarded in his day as one of Wales's foremost poets. As well as winning at eisteddfodau, he wrote several epic poems, occasional verse, a collection of hymns and contributed extensively to periodicals of the time. - Summary Description: 1) Lens ddwbl, ar gyfer darllen; cragen crwban o amgylch; colfach yn y canol, yn cael ei ddal gan bin gron hefo pen arian; yn bosibl ei addasu i ffitio'r wyneb; un ochr hefo twll wedi ei wneud er mwyn gallu atodi cordyn. 2) Lens sengl, gwydr ar gyfer darllen; cragen crwban o amgylch a handlen bys. Pin arian wedi ei ddifrodi ar un pen yn awgrymu ei fod wedi cael ei addasu o ddarn llygaid dwbl,
1) Double lenses, glass, for reading; cragen crwban o amgylchtortoiseshell surounds; hinged in centre, held by rounded silver headed pin; allows adjustment to fit face; one side with built in hole to allow cord to be attached. 2) Single lense, glass for reading; tortoiseshell surround and finger handle. Severed silver pin at one end indicates may have been adapted from double eye piece. - Date: 19eg ganrif / 19th century
- Size: 1) 12.5cm o hyd / long; 2) 8.9cm o hyd / long
- Copyright: Storiel