Dol / Doll
- Accession no: B-1995/105
- Name: Dol / Doll
- Description: Dol gwisg Gymreig.
Gwnaethpwyd doliau wedi eu gwisgo mewn gwisg Gymreig yn ystod y 19eg ganrif yn bennaf fel cofroddion. Roedd hefyd yn draddodiad i roi?r doliau yma yn rhodd i blant ac ymwelwyr enwog. Cyflwynwyd dol mewn gwisg Gymreig i?r Dywysoges Fictoria yn ystod ei hymweliad â Llangollen yn 1832. Roedd y ddol yma'n rhan o brosiect a wnaethpwyd yn 2011-2012 yn edrych ar 38 o ddoliau gwisg Gymreig o'r 19eg ganrif i ddadansoddi y defnydd a steil y wisg.
Mae doliau yn gyfarwydd fel y teganau mwyaf cyffredin a phoblogaidd. Gwnaethpwyd y doliau cynnar o'r 15eg ganrif allan o ddeunydd fel clai neu bren. Ymddangosodd doliau gwyr yn ystod yr 17eg ganrif ac erbyn 1800 cyflwynwyd doliau cyfansoddiad a adnabyddwyd fel papier-mâché. O ganol yr 19eg ganrif, cynhyrchwyd doliau porslen neu tseina, yn bennaf yn yr Almaen a Ffrainc a defnyddiwyd bisque (porslen heb ei wydro) i greu wynebau cain. Gwnaethpwyd cyrff y doliau allan o ledr neu pren, ac yn ddiweddarach defnydd. O ddechrau'r 20fed ganrif, bu i wneuthurwyr ddefnyddio y deunydd synthetig seliwlod i greu doliau a defnyddiwyd deunydd cryf fel finyl a plastig yn ail hanner y ganrif.
Welsh costume doll..
Dolls dressed in Welsh costume were made during the 19th century mainly as souvenirs. It was also custom to give these dolls as gifts to children and distinguished visitors. Princess Victoria was presented with a doll dressed in Welsh costume on her visit to Llangollen to 1832. This doll was part of a project undertaken in 2011-2012 that looked at 38 19th century Welsh costume dolls to analyse the fabrics and the styles of dress.
Dolls are familiar as one of the most common and popular form of toys. Early dolls from the 15th century were made of material such as clay or wood. Wax dolls appeared during the 17th century, and by around 1800 composition dolls, also know as papier-mâché were introduced. From the mid 19th century, porcelain or china dolls were produced, mainly in Germany and France and bisque (unglazed porcelain) was also used to create delicate faces. Dolls' bodies were made of leather or wood, and later cloth. From the early 20th century, manufacturers used the synthetic material celluloid for dolls and used durable materials such as vinyl and plastic in the second half of the century. - Summary Description: Pren gyda pen ac ysgwyddau plastr / tseina; gwallt du a gwyneb wedi ei baentio ymlaen; corff pren, breichiau ar golfachyn yn yr ysgwydd a'r benelin, coesau ar golfachyn yn y glun a'r benglin; braich a choes dde yn rhydd o'r corff; dillad y gellir eu tynnu i ffwrdd: pais laes a llodrau isaf mewn cotwm gwyn wedi eu addurno gyda les; pais streipiau glas a gwyn wedi ei gwisgo dros bais wlân wedi ei brodio a'i addurno gyda les; sgert wlân wedi ei phlethu, sgwariau llwyd; ffedog gotwm mewn sgwariau madras; crys gwyn patrymog; clogyn gwlân coch gyda brodwaith du; cap net gwyn; sanau ac esgidiau du.
Wooden with china / plaster head and shoulders; painted on black hair and face; wooden body, arms hinged at shoulder and elbow, legs at hip and knee; right arm and leg disjointed from body; removable clothes: white cotton chemise and drawers trimmed with lace; blue and white striped petticoat worn over woollen petticoat embroidered and trimmed with lace; pleated woollen skirt, grey checks; checked madras cotton apron; patterned white shirt; red wollen cloak with black embroidery; white net cap; black socks and shoes. - Date: 19eg ganrif / 19th century
- Size: h43.2cm
- Copyright: Storiel