Ffrog / Dress
- Accession no: B-1966-1
- Name: Ffrog / Dress
- Description: Y mae o bosib yn ffrog briodas a wisgwyd gan nain yr adneuwr.
Possibly a wedding dress worn by donor's grandmother. - Summary Description: Sidan llwyd gyda melfed brown; wedi ei gwnio gyda peiriant; mewn 2 ran: bodis, wedi ei ffitio'n agos, , siap crwn dros y wasg at y glun gyda plethiad yn y cefn ar gyfer y dimpan; 13 botwm plaen i lawr y blaen; poced fechan ar y wasg yn yr ochr chwith; llewys wedi eu ffitio, yn grwn dros y benelin; garddwrn wedi ei ffrilio gyda un rhes o bwythiadau; gwddf, uchel, wedi ei ffitio'n agos, wedi ei addurno gyda edau aur; garddwrn a'r gwddf wedi eu addurno gyda les gwyn; wedi ei leinio gyda cotwm lliw hufen a patrwm gwyrdd mân; sgert, proffil cul yn y blaen, timpan yn y cefn gyda'r defnydd oddi tano wedi ei grychu i fflownsiau; gweddill y sgert wedi ei chrychu gan fandiau o bwytho fertigol; border dwfn o amgylch band yr hem o felfed brown, ffrilen sidan a ffrilen plethedig; mae'r sgert wedi ei gwynebu gan gymysgedd o sidan a gwlân brown coeth. Grey silk with brown velvet; machine stitched; in 2 parts: bodice, closely fitting, curved over waist to hips with pleat at back to accomodate bustle; 13 plain buttons down front; small pocket at waist on left hand side; fitted sleeves, curved over elbows; wrist ruched with single rows of stitching; neck, high, close fitting, trimmed with gold braid; wrist and neck trimmed with white lace; lined with cream cotton with fine green herringbone pattern; skirt, narrow profile at front, bustle at back with material below gathered into deep flounces; rest of skirt ruched with bands of vertical stitching; deep border round hem band of brown velvet, silk frill and pleated frill; skirt faced with fine brown wool and silk mixture.
- Date: 1870au / 1870s
- Copyright: Storiel