Eben Fardd (ebenezer Thomas) gan Evan, Williams, llun olew / Eben Fardd (ebenezer Thomas) by Evan, Williams, oil painting
- Accession no: B-1964/9/1
- Name: Eben Fardd (ebenezer Thomas) gan Evan, Williams, llun olew / Eben Fardd (ebenezer Thomas) by Evan, Williams, oil painting
- Description: Cafodd Evan Williams (1816-1878) ei eni'n Lledrod, Ceredigion gan symud i Gaernarfon yn 1851. Roedd hefyd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Fel arlunydd roedd fwyaf adnabyddus am baentio tirluniau a phortreadau, a chaiff ei adnabod fel 'Evan Williams yr arluniwr'.
Ganwyd Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) yn Nhanlan ger Llangybi, Eifionydd. Gwehydd oedd ei dad ac roedd Ebenezer hefyd yn hyfedr yn y grefft. Bu'n rhedeg ysgolion yn Llangybi, Llanarmon ac yn ddiweddarach symudodd i bentref Clynnog Fawr i edrych ar ôl yr ysgol. Yn 1842 torrodd pob cysylltiad â'r Eglwys gan sefydlu ysgol yn ei gartref yng Nghlynnog. Symudwyd yr ysgol i'r capel yn 1845.
Magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth o oedran ifanc ac roedd yn adnabod beirdd eraill enwog Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion. Enillodd yn Eisteddfod Powys, Y Trallwng yn 1824 am ei awdl 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. Yn 1840 enillodd yn Eisteddfod Lerpwl am ei awdl 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. Fe'i ystyriwyd yn ei ddydd yn un o feirdd blaenllaw Cymru. Yn ogystal at ennill mewn eisteddfodau, ysgrifennodd amryw gerdd arwrol, penillion achlysurol, casgliad o emynau a chyfrannodd yn helaeth i gyfnodolion y cyfnod.
Cyflwynwyd y portread hwn iddo yn Eisteddfod Madog yn 1851. Mae'n eistedd ar gadair farddol yn gwisgo'r fedal a enillodd yn Eisteddfod Powys, Y Trallwng, 1824 (B-2005/62/2).
Evan Williams (1816-1878) was born in Lledrod, Cardiganshire and moved to Caernarfon in 1851. He was also a minister with the Calvanistic Methodists. As an artist he was best known particularly for painting landscapes and portraits, and he was recognised as 'Evan Williams the limner'.
Ebenezer Thomas 'Eben Fardd' (1802-1863) was born in Tanlan, near Llangybi, Eifionydd. His father was a weaver and Ebenezer also became proficient in the craft. He managed schools in Llangybi, Llanarmon and and he later moved to the village of Clynnog Fawr to be in charge of the school there. In 1842 he broke all ties with the Church and established a school at his home in Clynnog. This school was moved to the chapel in 1845.
He became interested in poetry at an early age and was acquainted with other well known poets in Eifionydd - Robert ap Gwilym Ddu and Dewi Wyn o Eifion. He won at the Powys Eisteddfod, Welshpool in 1824 for his ode 'Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. In 1840 he won at the Liverpool Eisteddfod for his ode 'Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob'. He was regarded in his day as one of Wales's foremost poets. As well as winning at eisteddfodau, he wrote several epic poems, occasional verse, a collection of hymns and contributed extensively to periodicals of the time.
This portrait was presented to him at the 'Madoc' Eisteddfod in 1851. He is seated in a bardic chair, wearing a medal awarded to him at the Powis Eisteddfod at Welshpool, 1824 (B-2005/62/2). - Summary Description: Testun yn gwisgo medal Eisteddfod, yn eistedd wrth bwrdd gyda 4 medal arall, llythyr ac offer ysgrifennu; yn weledig i lawr i'w sodlau; cefndir tywyll; mewn ffram wedi ei baentio'n aur.
Subject wearing Eisteddfod medal, seated at table with 4 other medals, letter and writing equipment; visible down to ankles; dark coloured background; in gold painted frame. - Date: c.1851
- Size: h120.5cm x w101cm
- Copyright: Storiel