Dysgl llysiau / Vegetable dish
- Accession no: B-1846
- Name: Dysgl llysiau / Vegetable dish
- Description: Dyluniwyd gan Frank Brangwyn. Syr Frank Brangwyn RA, 1867-1956, oedd un o arlunwyr mwyaf ei glod ym Mhrydain yn ei oes. Roedd yn arlunydd cynhyrchiol oedd hefyd yn ddarlunydd a dylunydd, yn cynhyrchu dyluniadau ar gyfer dodrefn, carpedi a serameg fel y rhai sydd yng nghasgliad Storiel. Yn 1956, blwyddyn ei farwolaeth, derbyniodd Prifysgol Bangor rodd o luniau ffigwr, cyfansoddiadau, printiadau a llyfr. Mae gan Storiel beintiad olew o Gastell Caernarfon gan Brangwyn a baentiwyd yn yr 1880'au.
This was designed by Frank Brangwyn. Sir Frank Brangwyn RA, 1867-1956, was one of the most honoured British artists of his generation. He was a prolific artist, and also worked as an illustrator and designer, producing designs for furniture, carpets and ceramics like the ones in the Storiel collection. In 1956, the year of his death, Bangor University received a donation of figure drawings, compositions, prints and book. Storiel has an impressive oil painting by Brangwyn of Carnarvon Castle, painted in the 1880s. - Summary Description: Crochenwaith hufen gwydredig gyda brychni gwyrdd a melyn golau; patrwm gwyrdd tywyll a melyn ar y caead a phatrwm llai o gwmpas y ddysgl; arwydd ar arfbais Royal Doulton a "designed by F. Brangwyn R.A." wedi ei farcio ar y sail gyda "D.5033" mewn gwyrdd. 1 allan o set o 2 - gwelir Cat. No. 942. Cream glazed pottery with pale green and pale yellow mottling; dark green and yellow pattern on lid and smaller pattern round dish; base marked with Royal Doulton crest and "designed by F. Brangwyn R.A." and in green "D.5033". 1 from set of 2 - see Cat. No. 942.
- Date: c.1930
- Size: Caead a sail / Lid and base : 29 x 14.3 cm
- Copyright: Storiel