Coelbren y Beirdd

Gwyddor farddol ffug a ddyfeisiwyd gan Iolo Morgannwg tua 1791 yw Coelbren y Beirdd . Honnodd bod ganddyn nhw system o ysgrifennu drwy rwnau ar ffyn pren tenau. Mae enw’r wyddor yn deillio o’r geiriau coel (i’w gofio neu i’w gredydu) a pren. Mae ganddi 20 prif lythyren ac 20 llafariad hir a threigladau cytseiniaid eraill wedi’u cerfio ar ddarnau o bren pedair ochr. Gellir troi pob darn i ddarllen bob ochr a maent wedi eu dal mewn ffrâm arbennig. Peithynen yw’r enw ar hyn. Defnyddiwyd peithynen yn wreiddiol wrth wehyddu i ddal edafedd ystof yn eu lle.

Hynafiaethydd a bardd Cymreig oedd Edward Williams (Iolo Morgannwg) (1747-1826). Casglodd lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, ond daeth yn hysbys ar ôl ei farwolaeth ei fod wedi ffugio nifer o lawysgrifau. Mae’n adnabyddus am adfywio Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792. Honnodd ei fod yn seiliedig ar weithgareddau Derwyddon Celtaidd, ond ffuglen oedd hyn. Roedd traethawd Cymraeg, a ysgrifennwyd gan ei fab Taliesin Williams ac a gyhoeddwyd fel pamffled yn 1840, yn amddiffyn dilysrwydd yr wyddor ac enillodd Eisteddfod y Fenni yn 1838.

Mae’n debyg i’r coelbren yma gael ei wneud gan Lewis Davies Jones (Llew Tegid) (1851-1928) gan bod geiriau ar y label yn nodi “Made for and presented to me by Llew Tegid 1911. Preece.” Roedd Llew Tegid yn brifathro Ysgol y Garth, Bangor, ac roedd hefyd yn fardd, cyfansoddwr ac arweinydd yr Eisteddfod. Ymddengys ei fod wedi’ i gyflwyno i William Preece (1834-1913), peiriannydd trydanol a dyfeisiwr. Preece oedd prif beiriannydd y Swyddfa Bost, ac arloeswr mewn telegraffiaeth ddiwifr, gan gynorthwyo Marconi gyda’i waith.

Daethpwyd o hyd i’r coelbren yma mewn siop elusen ynghyd â phrint mewn ffrâm o’r tŷ yr arferai William Preece fyw ynddo yng Nghaernarfon. Rhoddwyd y coelbren i Storiel. Mae coelbren arall sydd yn rhan o gasgliad Storiel yn cael ei arddangos yn Oriel 4.