Cist waddol

Byddai cistiau yn cael eu defnyddio i gadw dillad neu ddillad gwely ac ar achlysur priodas, byddai cist bren yn cynnwys dillad gwely a blancedi yn cael ei chyflwyno i’r briodferch – yr enw a roddid ar y math hwn o gist oedd ‘cist waddol’. Wedi ei gerfio ar flaen y gist dderw fawr yma mae ‘L A K A 1671’ -llythrennau blaen Lewis Anwyl a Katherine Anwyl a rhoddwyd y gist iddynt ar achlysur eu priodas yn 1671. Roeddent yn byw yn Y Parc, Croesor, Llanfrothen, Gwynedd. Mae rhai adeiladau o’r 17eg ganrif wedi goroesi yn y Parc, a hefyd gweddillion gardd teras sylweddol o’r 17eg ganrif, i gyd o fewn muriau bychan y parc.

Credir bod y tŷ ble cedwir y gist yn wreiddiol hefo drysau a ffenestri cul. Yn ffodus, gellir datgymalu’r gist fawr yma drwy dynnu allan y pegiau pren – mae’n ddarn o ddodrefnyn cynnar wedi’i bacio’n fflat. Mae gan Storiel fodel o gist a ellir ei datgymalu yn yr un ffordd, gan ddangos ei adeiladwaith medrus.

Defnyddiwyd cistiau fel hyn i gadw dillad gwely a llieiniau, neu sachau o flawd ceirch neu flawd. Gellid tynnu’r caead a’i ddefnyddio fel gwely ychwanegol. Gallai caeadau cistiau llai bod yn lle i roi baban, a gellid hefyd eu defnyddio fel arwyneb i dylino bara arno ac wedyn fel hambwrdd i’r toes godi.

Gallai cist fawr fel hyn storio gwerth blwyddyn o geirch i deulu. Fe’i cedwir mewn ystafell sych, gynnes, fel arfer ystafell wely uwchben y gegin. Tollwyd y ceirch wedi malu i mewn i’r gist (gyda’r tyllau a bylchau wedi cael eu cau’n ofalus) a buasai’r teulu cyfan yn cymryd eu tro i sefyll lawr ar y ceirch, gan wisgo sanau gwyn glan yn arbennig ar gyfer y digwyddiad blynyddol pwysig yma. Paciwyd y ceirch yn dynn fel ei fod yn cadw’n ffres ac yn rhydd o bryfaid am y flwyddyn nesaf. Roedd cadw’r gist yn yr ystafell wely hefyd yn rhybuddio’r teulu o unrhyw ymosodiadau nosol gan lygod bach a mawr.

Mae’r gist waddol yma yn cael ei harddangos yn Oriel 3.