Chwarter nobl aur

Darganfuwyd y geiniog yma, chwarter nobl aur o gyfnod Edward III (teyrnasu 1312-1377) ar lwybr yng ngogledd Gwynedd. Fe’i darganfuwyd ar wyneb y llwybr, ond gan bod y deunydd i adeiladu’r llwybr wedi dod i mewn o fannau eraill mae’r ffynhonnell gwreiddiol yn ansicr. Ni wyddom sut mae’r geiniog hon yn clymu i hanes yr ardal – efallai ei bod wedi cael ei gario gan fasnachwyr neu porthmyn oedd yn pasio drwodd.

Y nobl oedd y geiniog aur Saesneg cyffredin cyntaf ac fe’i cynhyrchwyd gyntaf yn 1344 yn ystod teyrnasiad Edward III yn lle’r ffloring ddwbl fyrhoedlog aflwyddiannus na gylchredwyd yn aml. Roedd y nobl a’i ffracsiynau, yr hanner a chwarter nobl, yn boblogaidd iawn ac yn cylchredeg yn eang. Gwerthuswyd y chwarter nobl fel deunaw ceiniog.

Mae’r marc bathu yn Cross 3, felly mae hyn yn dyddio i 1351-1361 ac o bedwerydd fathiad o’r cyfnod cyn y cytundeb. Cyn 1360 bu i Edward III hawlio brenhiniaeth Ffrainc ac yn y 1350au bu i’w fyddin ennill tiriogaethau sylweddol yn Ffrainc gan hyd yn oed gipio’r brenin Ffrengig. Yn 1360 bu i Edward roi’r gorau i’w hawl i’r orsedd Ffrengig yng Nghytundeb Brétigny, ond bu i hyn sicrhau ei feddiannau Ffrengig. Mae’r geiniog yn dyddio o’r cyfnod cyn y Cytundeb ac yn cyhoeddi datganiad Edward i fod yn frenin Ffrainc.

Mae’r geiniog wedi torri a amgylch yr ochrau, ond mae’r arysgrif tu blaen yn darllen EDWAR.R.ANGL.Z.[F]RANC.D.hY. (Edward Brenin Lloegr a Ffrainc, Arglwydd y Gwyddelod) a’r tu chwith yn darllen EXALTABITVR.IN.GLORIA (Fe fydd yn cael ei ddyrchafu mewn gogoniant). Dengys y tu blaen darian frenhinol wedi ei chwarteru efo arfbais Lloegr a Ffrainc o fewn ffasgudyn o wyth bwa ac mae’r tu chwith yn dangos croes blodaddurnol, ym mhob ongl mae llew yn cerdded efo’i wyneb wedi troi’n llawn, i gyd o fewn ffasgudyn o wyth bwa. *

Mae nifer o geiniogau yng nghasgliad Storiel gan gynnwys rhai celc Bangor a cheiniogau a dderbyniwyd trwy brosiect Hel Trysor.

*O adroddiad Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd 2017-18.