Cerflun o Santes Wilgefortis

Dyma gerflun canol oesol Ffleminaidd, yn dyddio c. 1520, o Santes Wilgefortis, a elwir weithiau’n Santes Uncumber. Roedd yn ferch i Frenin paganaidd Portiwgal. Roedd Santes Wilgefortis newydd gael ei throi i Gristnogaeth a wedi addo gwasanaethu Duw fel gwryf. Dewisodd ei thad Frenin Sicily yn ŵr iddi, ac er mwyn cadw at ei haddewid i aros yn wryf, gweddïodd am iddi gael ei rhyddhau o’r cytundeb. Cafodd ei gweddiau eu hateb gan farf a dyfodd ar ei hwyneb dros nos. Gwnaeth y farf hi mor hyll fel nad oedd neb yn fodlon ei phriodi. Mewn rhwystredigaeth a thymer, gorchmynnodd ei thad iddi gael ei chroeshoelio.

Mae’r cerflun yn rhan o gasgliad Amgueddfa Capten John Jones, ynghyd a phedwar cerflun Ffleminaidd arall. Roedd John Jones (1798 – 1876) yn gapten llong llwyddiannus o Lerpwl a fu’n casglu pethau o bedwar ban byd ac a sefydlodd ei amgueddfa ei hun ym Mangor yn 1848 wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr, ar waelod Lon Pobty. Yn 1870, rhoddwyd yr amgueddfa i Ddinas Bangor ac yn 1909 symudodd i ystafelloedd a oedd newydd eu codi y tu ôl i’r llyfrgell newydd yn Ffordd Gwynedd. Yn 1940 trosglwyddwyd rhai eitemau oedd ar ôl o gasgliad Dinas Bangor i’r Amgueddfa.

Tybir bod y rhan fwyaf o’r cerfiadau yn dyddio o c.1450 – c.1550. Mae’n debyg y cafodd y cerfiadau eu creu yn yr ardaloedd hynny o’r Iseldiroedd ble siaredid Fflemineg. Ar ôl y Diwygiad Protestannaidd yn y 16eg ganrif, tynnwyd gweithiau celf a cherfiadau arddurnedig o nifer o eglwysi. Datblygodd marchnad i’r rhain drwy Ewrop.

Mae tarddiad y stori ynghylch ‘seintiau barfog’ yn aneglur – ni ellir olrhain y stori yn gynharach na’r 15fed ganrif. Un damcaniaeth yw i’r santes droi’n foneddiges trwy wall eiconograffig – y cafodd cerfwyr pren eu drysu gan y farf a’r gwisg laes hir ble cafodd Crist croeshoeliedig ei bortreadu ac mai trwy gyd-ddigwyddiad y daeth y ffigyrau hyn yn rhannol wrywaidd, rhannol fenywaidd. Er gwaethaf i’r chwedl o’r santes fenywaidd hon gael ei gondemnio o fewn yr Eglwys Gatholig, lluniwyd delweddau o St.Wilgefortis trwy gydol y bymthegfed a’r unfed ganrif ar bymtheg ac roeddent yn fwriadol amwys.

Roedd yn santes boblogaidd iawn, yn arbennig ymysg merched oedd mewn priodas anhapus ac a weddïai arni. Er y cafodd St.Wilgefortis ei dad-ganoneiddio yn1969, mae gan y santes llawer o ddilynwyr o hyd ymhlith mudiadau sy’n gweld ei delwedd yn ffordd o godi dadleuon ynghylch swyddogaethau’r rhywiau a hunaniaeth rhywiol.

Mae’r cerflun yn cael ei arddangos yn Oriel 5.