Castell Caernarfon gan Samuel Maurice Jones

Mae’r dyfrlliw yma o gastell Caernarfon wedi ei wneud gan Samuel Maurice Jones (1853-1932), arlunydd Cymreig tirluniau a darlunydd. Gweithiodd y rhan fwyaf mewn dyfrlliwiau gan wneud sawl astudiaeth a phaentiadau o gaeau ger Caernarfon ac yn Nyffryn Conwy. Fe’i dylanwadwyd gan arlunwyr Seisnig Rhamantus yn enwedig J.M.W. Turner, a’r prif ddiddordeb oedd peintio tirluniau gan weithio tu allan (ên plaine air). Mae ei lyfrau braslunio o’r 1880as a’r 1890au sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dangos hyn.

Mae’r llun yma’n dangos ysgubau ŷd mewn cae efo’r castell yn y cefndir. Mae yna ffigwr ar ei ben ei hun i’r chwith yn y cae, nodwedd gyffredin yn ei waith. Mae’r llun yma’n nodweddiadol o’i astudiaethau gwledig efo cymeriad bugeiliol delfrydol yn dilyn traddodiadau darluniau Rhamantus a thirluniau.

Ganwyd ym Mochdre ac roedd ei dad, Y Parch John Jones, yn weinidog efo’r Methodistiaid Calfinaidd. Mynychodd Ysgol Gelf Caernarfon dan arweiniad John Cambrian Rowland, ac yn ddiweddarach astudiodd yn Llundain o dan arweiniad William Collingwood. Roedd Collingwood yn Gydymaith Cymdeithas Peintwyr mewn Dyfrlliw a darparodd hyfforddiant sylfaenol i Samuel mewn celf.

Daeth Betws-y-coed yn gyrchfan i sawl arlunydd o 1844, ac o 1860au ymlaen fel y daeth yn brysurach, dechreuodd arlunwyr symud ar hyd Dyffryn Conwy. Roedd Jones yn un o arlunwyr Dyffryn Conwy, ac roedd yn aelod sefydlol Academi Frenhinol Cambria yng Nghonwy. Yn 1882, daeth yn yr Academydd genedigol o Gymru cyntaf i gael Aelodaeth Cysylltion, a daeth yn aelod llawn yn 1921.

Roedd Jones yn flaenllaw mewn cychwyn ymgyrch yn yr iaith Gymraeg ar ran diwylliant gweledol, a pharhaodd i gefnogi hyn trwy ei oes. Cyfrannodd erthyglau a darluniau i’r cyhoeddiad ‘Cymru’ wedi ei olygu gan Owen M. Edwards. Yn 1906, trefnodd Arddangosfa Celf a Chrefftau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaernarfon.

Mae mwy o luniau gan Samuel Maurice Jones o Gaernarfon gan gynnwys Afor Seiont and Lôn Goed Helen yn Archifdy Caernarfon, Gwasanaeth Archifau Gwynedd -Jones.

Mae’r llun yma’n gaffaeliad newydd i’r casgliad ac yn rhodd gan Gyfeillion Storiel.