Offerynnau Cerdd Ethnograffig

Mae tua 600 o offerynnau yn y casgliad Offerynnau Cerdd Ethnograffig. Mae 325 o offerynnau clai cyn-Golumbaidd a ffigurau’n dangos cerddorion o orllewin Mecsico. Ffurfiwyd y casgliad gan Peter Crossley-Holland (1916-2001), cerddolegydd a chyfansoddwr a oedd yn arloeswr ym maes ethnogerddoleg. Dyma un o’r deg casgliad gorau yn y byd o eitemau cerddorol hynafol cyn-Golumbaidd ac mae’n un o asedau diwylliannol mwyaf gwerthfawr y Brifysgol.

Daw’r offerynnau o bob rhan o’r byd, yn cynnwys Ewrop, Affrica, Mecsico, Gogledd America, India a Thibet, er enghraifft. Mae yna bibgyrn dwbl, crafwyr cregyn, clychau geifr a chwibanau pilen o Sbaen; chwiban aderyn a chlapwyr o’r Almaen; rhuglen rhisgl yn perthyn i Irocwoiaid gogledd America; rhuglen lithro a phibell swynwr nadredd o’r India a cloch law o Gambodia.

Mae’r casgliad yn cael ei gadw yn yr Ysgol Cerddoriaeth ac nid yw ar gael i’r cyhoedd ei weld ar hyn o bryd, ond gall fod yn bosib trefnu i ymchwilwyr gael gweld yr offerynnau.