Casgliad Swoleg

Mae tua 40,000 o eitemau yn y Casgliad Sŵoleg, a thua 500 ohonynt yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Adeilad Brambell. Cychwynnodd y Casgliad Sŵoleg fel adnodd dysgu ac mae’n dal i gael ei ddefnyddio felly heddiw. Dyma gasgliad hynod o ddiddorol sy’n ysbrydoliaeth i’r Brifysgol ac i’r gymuned ehangach.

Mae’r casgliad yn cynnwys sgerbydau cyfan, penglogau, tacsidermi, cyrn ceirw, wyau a sbesimenau wedi’u cadw mewn jariau gwirod. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyrn elc Gwyddelig sydd tua 7500 o flynyddoedd oed, sgerbwd cythraul Tasmania, oen â dau ben, casgliad o adar o Seland Newydd a chrwban o ynysoedd y Galapagos. Mae rhai o’r rhywogaethau sydd i’w gweld yn rhai sydd mewn perygl erbyn hyn, fel y cacapo o Seland Newydd.

Nid yw Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn agored i’r cyhoedd yn rheolaidd, ond trefnir dyddiau agored yn achlysurol.

Gall grwpiau ac ysgolion drefnu ymweliadau ac mae’r Amgueddfa ar agor yn ystod Diwrnodau Agored y Brifysgol.