Yn y casgliad hwn, mae tua 500 o ddarnau o borslen a tsieni sydd, gyda’i gilydd, yn creu arolwg hanesyddol cryno o ddatblygiad llestri tsieini domestig.
Mae yma enghreifftiau da o lestri pridd cynnar gwydredd tun o Brydain ac Ewrop, porslen cynnar Meissen ac enghreifftiau o borslen a tsieini o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif o Abertawe, Bow, Chelsea, Derby, Lowestoft, Caerwrangon, Caughley, Coalport, Plymouth a ffatrïoedd yn Swydd Stafford. Mae’r casgliad yn cynnwys porslen o Japan a Tsieina wedi’i greu rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gwydrau o Loegr ac Ewrop a grëwyd yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r rhan fwyaf o’r casgliad yn cael ei arddangos yng Nghoridor Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Mae ar gael i’w weld heb wneud trefniadau arbennig yn ystod oriau agor y Brifysgol.