Mae tua 600 o weithiau a grëwyd rhwng yr 17eg a’r 21ed ganrif yn y Casgliad Celf.
Mae yno weithiau gan nifer dda o artistiaid o Gymru, yn cynnwys Brenda Chamberlain, David Jones, Edward Povey, Peter Prendergast, Gwilym Pritchard, Ceri Richards, Will Roberts, Evan Walters, Catrin Webster, Claudia Williams, Christopher Williams a Kyffin Williams. Nid celf o Gymru yn unig sydd yn y casgliad, mae’n cynnwys lluniau gwerthfawr gan artistiaid o Brydain fel Edward Wadsworth, Paul Nash, Winifred Nicholson a Sandra Blow a rhai Ewropeaidd fel Guido Rossi.
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithiau celf yn cael eu harddangos yma a thraw yn y Brifysgol, yn enwedig ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, gan ei wneud yn lle hardd, diddorol a chyffrous.
Mae Prif Adeilad y Celfyddydau ar agor i’r cyhoedd yn ystod oriau agor y Brifysgol.
Cafodd y darluniau olew ac acrylig yn y Casgliad Celf eu hychwanegu at restrau’r Public Catalogue Foundation ac maent ar gael i’w gweld ar http://www.artuk.org