Casgliad Amgueddfa Lloyd George

Mae’r Amgueddfa a’r Bwthyn sydd wedi’u lleoli yn Llanystumdwy yn amlinellu bywyd Lloyd George rhwng 1863-1945.

Mae’r casgliad Amgueddfaol yn seiliedig ar gasgliad gwreiddiol Ymddiriedolaeth Amgueddfa Lloyd George, a fu’n rhedeg yr Amgueddfa tan y 1980au. Bu i Gyngor Gwynedd gymryd yr Amgueddfa drosodd yn 1987, gan sefydlu Ymddiriedolaeth newydd. Ers hyn mae dau estyniad wedi cael eu hychwanegu i’r amgueddfa ac mae’r casgliadau wedi tyfu’n sylweddol.

Rhoddwyd Highgate, cartref Fictorianaidd Lloyd George pan yn blentyn, a gweithdy crydd ei ewythr, i’r Cyngor gan aelodau o deulu Lloyd George. Mae’r ddau eiddo wedi’u dodrefnu i fod fel yr oeddent pan oedd Lloyd George yn byw yna.