Carthen Caernarfon

Mae carthenni Caernarfon, a elwir weithiau’n garthenni Pwllheli, yn wahanol i unrhyw decstilau Cymreig eraill. Yng nghanol y garthen mae llun o’r Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth efo’r geiriau ‘Cymru Fydd’ uwch ei ben, a llun o gastell Caernarfon efo’r geiriau ‘Cymru Fu’ oddi tano. Uwch ben ac o dan y lluniau mae dwy ddraig a chennin, ac mae gweddill o’r blanced wedi ei gorchuddio â chennin a chennin Pedr.

Mae sawl dadl wedi bod am darddiad dyluniad gwreiddiol o’r garthen. Mae Ann Sutton, awdurdod ar decstilau Cymreig, yn credu mai’r gwehydd John Roberts o Gaernarfon ddaru wneud y garthen wreiddiol, a chyflwynwyd y garthen i Edward VII (Tywysog Cymru ar y pryd) yn 1876 pan oedd yn ymweld â Chaernarfon i agor y gweithfeydd dŵr. Yn ôl yr hanesydd Cymreig D.G. Lloyd Hughes roedd hyn yn anghywir oherwydd agorwyd y gweithfeydd dŵr yn 1868 ac mae’r Herald Cymraeg yn cyfeirio at rodd oddi wrth John Roberts at Dywysog Cymru yn 1868.

Symudodd John Roberts o Lerpwl, yn 1879-80 ac ymfudodd i America. Bu i Felin Wlân Pwllheli brynu’r patrwm a’i batentu yn 1895. Pan ddaru nhw brynu’r patrwm, dim ond llun o gastell Caernarfon oedd ar y dyluniad.

Ychwanegwyd llun o Goleg Aberystwyth yn ddiweddarach. Adeiladwyd Coleg Aberystwyth yn 1872, ond mae’r llun yn dangos adeilad y Coleg a gynhwyswyd mewn dyluniad gan y pensaer John Seddon yn 1885, ddaru ddim cael ei wireddu.

Mae teulu Edward Davies-Bryan yn honni mae ef oedd y person ddaru roi’r archeb gyntaf am y garthen. Roedd gan y teulu ddiddordeb mawr yn Aberystwyth ac roedd Joseph Davies Bryan, ei frawd yn fyfyriwr yn, ond mae hyn yn annhebygol.

Mae’n edrych yn debyg bod dwy garthen wahanol – yr un ond efo llun castell Caernarfon o bosib wedi cael ei ddylunio gan John Roberts a’r ail un hefo llun castell Caernarfon a Choleg Aberystwyth wedi ei ddylunio ar ôl 1885. Mae yn aneglur pwy ddyluniodd yr ail garthen a beth ddigwyddodd rhwng 1880-1895.

Roedd y garthen yma yn berchen i hen daid a nain y rhoddwr, Robert a Leusa Roberts o Ddeiniolen. Roedd Robert Robert Roberts (1856-1936) yn chwarelwr a adnabyddid fel Bob Doctor ar ôl ei dad o’r un enw a oedd yn feddyg yn chwarel Dinorwig cyn i’r ysbyty gael ei hadeiladu.

Hughes, D.G. Lloyd, Haf 2002, ‘Carthen Pwllheli’, Y Casglwr, rhifyn 75

Roberts, Brynley F.,Gaeaf 2002, ‘Carthen Pwllheli a Choleg Aberystwyth’, Y Casglwr, rhifyn 76

Hughes, D.G. Lloyd, Gaeaf 2002, ‘Llythyr gan D.G. Lloyd Hughes’, Y Casglwr, rhifyn 76

Hughes, D.G. Lloyd, Gaeaf 2005, ‘Carthen Pwllheli’, Y Casglwr, rhifyn 85

Thomas, Dafydd Whiteside, Gwanwyn 2006, ‘Carthen Pwllheli a Melin Caernarfon a Phontrug’,

Y Casglwr, rhifyn 86