Carnarvon Castle gan Frank Brangwyn

© stâd Frank Brangwyn / Bridgeman Images 

Mae’r llun olew bywiog yma a beintiwyd yn gyflym wedi cael ei wneud gan Frank Brangwyn (1867-1956). Yn ystod ei oes fe’i cydnabyddid fel un o’r artistiaid enwocaf yn y byd, yn peintio lluniau nodweddiadol, lliwgar a hylif a murluniau cymeradwyol. Nid oes dyddiad i’r paentiad ond mae’n debyg ei fod wedi cael ei wneud yn y 1920au.

Peintiodd Brangwyn o leiaf dri fersiwn o’r castell, er gwaethaf y ffaith iddo erioed ymweld â Chaernarfon. Mae’r diffyg manylder yn y castell, a’r ffocws ar y ffigyrau deinamig yn y blaen, y cwch a’r coed yn cefnogi hyn. Y llun dyfrlliw o Gastell Caernarfon sydd yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Worthing yw’r agosaf o ran cyfansoddiad i’r llun olew yma.

Ganed Frank Brangwyn yn Bruges yn 1867: roedd ei dad o Loegr ac yn ddylunydd eglwysig a gwneuthurwr cabinetau, ac roedd ei fam yn Gymraes. Newidiwyd yr enw teulu Sir Buckingham o Brangwin i Frangwyn gan ei daid. Dychwelodd y teulu i Lundain yn 1874. Yn 1882 daeth Brangwyn yn brentis dylunio i William Morris a heb unrhyw hyfforddiant celf gain ffurfiol daeth yn adnabyddus yn fuan fel arlunydd annibynnol. Yn 1885, pan yn 17 mlwydd oed, derbyniwyd ei lun cyntaf gan yr Academi Frenhinol.

Roedd hefyd yn wneuthurwr prints aruthrol, yn ddarlunydd ac yn ddyluniwr dodrefn a serameg. Mae gan Archifdy Prifysgol Bangor gasgliad o ddarluniau gwreiddiol, argraffiadau a llyfrau a roddwyd iddynt gan Brangwyn cyn ei farwolaeth, ac mae gan Storiel blât a dysgl gawl Royal Doulton a ddyluniodd yn y 1930au. Bu iddo hefyd roi ei waith i sefydliadau ar draws Ewrop, er enghraifft i’r Albertina yn Fienna – ef oedd un o’r aelodau sefydlol y Mudiad Ymneilltuad Fienaidd. Nid yw ei gyfraniad i gelf Ewropeaidd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif yn cael ei gydnabod yn eang bellach.

Prynwyd y llun yma yn 2002 drwy gyllid gan Gyfeillion Amgueddfa ac Oriel Bangor (bellach yn Storiel), Prifysgol Bangor, Cronfa Casgliad Celf Genedlaethol ac Amgueddfa Fictoria ac Albert.