Cadeirlan Bangor a Phlas yr Esgob

Mae’r llun dyfrlliw heb ei fframio yma sydd yn dyddio o oddeutu 1820 wedi cael ei wneud gan Emma Fynes Clinton (1760-1831). Roedd yr arlunydd yn enedigol o Nottingham yn ferch i Job Brough, a priododd y Parchedig Charles Fynes Clinton yn 1779.

Mae’r llun yma yn dangos golygfa o Blas yr Esgob o’r gogledd hefo’r gadeirlan tu ôl a rhan o’r ardd. Plas yr Esgob, adeilad rhestredig Gradd II, yw’r ail adeilad hynaf ym Mangor ar ôl y gadeirlan. Yn dyddio o’r 16eg ganrif, dyma’r unig Blas yr Esgob gweddol cyflawn sydd yn goroesi o’r cyfnod canol oesol hwyr yng Nghymru.

Fe’i adeiladwyd mewn dau gyfnod yn ystod esgobaethau Esgobion Deane a Skevington. Ymddengys dulliau dyddio pren bod yr adain de-ddwyrain wedi cael ei adeiladu yn 1546. Ymestynnwyd Plas yr Esgob yn syth ar ôl y Diwygiad, ac mae yna ychwanegiadau diweddarach yn yr 18eg ac 19eg ganrif. Adeiladwyd yr adain gogledd-orllewin a welir yn y llun yma yn ystod esgobaeth Esgob Majendie.

Daeth yr adeilad yn neuadd y dref yn 1909 ac yn 2014-15 cafodd ei adnewyddu fel rhan o brosiect £2.6 miliwn a gefnogwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a chyllidwyr eraill. Ail-agorodd fel Amgueddfa ac Oriel Gelf, Storiel yn 2016.

Mae’r llun yma’n gaffaeliad newydd i’r casgliad ac yn rhodd gan Gyfeillion Storiel. Bydd yn cael ei arddangos yn fuan. Am ragor o wybodaeth am sut i ymuno â’r Cyfeillion gweler https://www.storiel.cymru/cymru/cyfeillion-storiel/