Cadair gwaith leip

Gwnaethpwyd y gadair anghyffredin yma yn yr 19eg ganrif wedi ei llunio o wellt gwenith plethedig gyda stribedi o risgl coed celyn yn ei ddal at ei gilydd. Defnyddiwyd coesau hirion mieri hefyd ar gyfer y math yma o gadair, wedi eu gwlychu a’u hollti, y drain wedi eu tynnu. Mae gan y gadair sail pren a chastorau metal, ac yn wreiddiol roedd iddi orchudd brethyn sydd yn egluro pam ei bod wedi goroesi. Roedd yn perthyn yn wreiddiol i Dr John Roberts, Llanberis ac yn rhan o gasgliad Owen Rawson Owen pan oedd yn berchennog gwesty Gorffwysfa, Llanberis. Rhoddwyd i’r Amgueddfa yn 1965.

I wneud y troadau, gwthiwyd bwndel a wellt drwy diwb corn ac fel yr oedd yn dod trwodd roedd yn cael ei rwymo hefo stribedi o fieri wedi eu hollti a’u gwlychu a rhisgl celyn. Ychwanegwyd rhagor o wellt i gadw’r tiwb corn yn llawn. Fel hyn roedd y troadau yn cadw eu trwch a gellid cynyddu eu hyd. Roedd yn bosib uno’r rhwymiadau hefo nodwydd fawr miniog wedi ei gwneud allan o asgwrn ceffyl, a oedd yn procio’r pennau i mewn i’r troadau wedi eu rhwymo’n dynn. Os oedd y mieri’n sychu allan roeddent yn mynd yn frau ac yn anodd gweithio efo nhw.

Mae’r gadair yma’n cael ei harddangos yn Oriel 3. Mae gan Storiel nodwydd gwaith leip a mesur ffustiwr gwaith leip sydd y cael eu harddangos yn Oriel 3 a 4.