Bwrdd hysbysebu teithiau Whiteway

Roedd cwmni bws Whiteway yn gweithredu rhaglen boblogaidd o deithiau a gwibdeithiau o Gaernarfon i gyrchfannau ymwelwyr cyfagos yn ystod misoedd yr haf o’r 1930au ymlaen. Mae’r bwrdd hysbysebu yma’n dyddio i’r 1950au.

Sefydlwyd y cwmni bws gan Mr Owen Robert Williams, cyn chwarelwr a fu wedyn yn rhedeg busnes groser o’i gartref, Liverpool House, Waunfawr. Ymledodd y busnes teulu gan sefydlu cwmni glo a chludiant cyffredinol ac ar ôl hynny dechreuodd gario teithwyr i Gaernarfon mewn cerbydau’n cael eu tynnu gan geffyl. Yn 1912 prynodd ei gerbyd motor cyntaf i gario teithwyr, ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf dechreuodd wasanaeth wedi ei amserlennu o Waunfawr i Gaernarfon o dan yr enw masnach ‘Caernarvon, Waenfawr & District Motor Services’.

Peintiwyd y cerbydau i gyd yn mewn gwyn fel eu bod yn sefyll allan oddi wrth y Bws Brown, Bws Glas a’r ‘Llwydion’ (fel yr adnabyddid cerbydau Crosville) ac yn y 1930au newidiwyd yr enw ar y cerbydau  i ‘Whiteway’ er mai’r enw cyfreithiol oedd O. R. Williams a’i Feibion.

Roedd gan y cwmni swyddfa yn 6 Stryd y Castell, Caernarfon ar gyfer archebu ac ymholiadau ac o fan hyn y gweithredwyd y rhaglen gwibdeithiau a theithiau yn ystod misoedd yr haf.  Bu i Crosville gystadlu am waith gwibdeithiau a hurio preifat ym mhob cyrchfan arfordirol a’r rhan fwyaf o’r trefi marchnad mewndirol, ond roedd dal peth gwaith yn yr ardal ar gyfer gwmnïau lleol fel Purple, Whiteway a Caelloi.

Cynigiwyd amrediad eang o deithiau gyda llawer yn eu mynychu ac ymysg y gwahanol deithiau bws diwrnod neu hanner diwrnod, galliasai teithwyr ymweld â Dinas Dinlle, Cricieth, Pwllheli, Nefyn, Aberdaron, Llandudno a Benllech. Yn Awst 1955, buasai’r pris wedi bod rhwng pedair a deg swllt.                

Mae sawl bwrdd yng nghasgliad Storiel yn hysbysebu y teithiau gwahanol.