Bocs Sêl Rhufeinig, Llandygái

Mae’r blwch selnodau o’r ail ganrif a ganfuwyd yn anheddiad brodorol Llandygái yn dangos bod dogfennau pwysig yn yr ardal. Roedd blychau selnodau’n gwarchod y selnodau cŵyr a roddid ar ddogfennau swyddogol i brofi eu bod yn ddilys. Mae wedi’i addurno â motiff enamel o darddiad ‘Celtaidd’. Roedd cwyr coch y selnod yn dal ynddo.