Blwch tân

Mae cynnau tân – cynhyrchu fflam – yn rhan hanfodol o fodolaeth ddynol. Hyd at 1826 pan gynhyrchwyd y matsis diogel am y tro cyntaf, defnyddiwyd blychau tân fel y dull mwyaf cyffredin i wneud tân. Storiwyd golosg sych, yn cynnwys deunydd planhigion sych iawn, mwsogl, plu a gwlân dafad, y tu mewn i’r blwch hefo darnau o fflint a dur. Roedd y blwch fel arfer yn cael ei storio yn agos at yr aelwyd, er mwyn cadw’r golosg mor sych a phosibl ac er mwyn hwyluso mynediad. Tarwyd y fflint a’r dur at ei gilydd i greu gwreichionen a fyddai, gobeithio yn cynnau’r golosg ac yn cychwyn y tân.

Mae gan Storiel bedwar blwch tân. Daeth yr un pren yma yn dyddio o gychwyn yr 19eg ganrif yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa ar ddiwedd yr 19eg ganrif. Mae ganddo ddau ran mewnol sydd yn dal dau fflint a phum darn o ddur wedi eu siapio. Mae’r rhan gwaelod llai wedi cael ei golosgi, sydd yn dangos ei fod wedi cael ei ddefnyddio fel cynhwysydd i greu’r tân. Mae cefn wedi’i ysgythru “ORV WX MDIV”.

Mae cychwyn tân fel hyn yn anodd a bu cemegwyr (alcemyddion) cynnar a dyfeiswyr yn arbrofi gyda gwahanol gemegau a dulliau i ddisodli’r dull fflint a dur syml. Yn y 5ed ganrif OC dyfeisiodd y Tsieineaid ffyn pren wedi’u gorchuddio â sylffwr fel cymorth i gynnau tân, ond roedd dal angen gwreichionen arnynt i danio. Bu ymdrechion diweddarach yn Ewrop gan ddefnyddio cemegau oedd yn fflamadwy iawn a oedd yn creu mygdarthau gwenwynig peryglus. O’r diwedd yn 1826 bu i John Walker, cemegydd a fferyllydd, ddarganfod bod ffon wedi’i gorchuddio â chemegau yn tanio wrth gael ei grafu ar draws ei le tân. Dechreuodd werthu ei ‘Friction Lights’ yn ei fferyllfa yn 1827. Dilynwyd hyn hefo addasiadau gan ddyfeiswyr a diwydianwyr eraill ac erbyn canol yr 19eg ganrif defnyddiwyd matsis diogel yn helaeth. Heddiw mae rhwyddineb gwneud tân yn cael ei gymryd yn ganiataol.

Mae’r blwch tân yma’n cael ei arddangos yn Oriel 4.