Blwch Anrheg y Dywysoges Mary, 1914

Rwyf am i chi fy helpu nawr i anfon anrheg Nadolig gan yr holl genedl at bob un morwr ar y môr a phob milwr ar y ffrynt. Rwyf yn sicr y byddwn i gyd yn teimlo’n hapusach ein bod wedi helpu wrth anfon ein harwydd bach o gariad a chydymdeimlad ar fore ‘r Nadolig, rhywbeth fyddai’n ddefnyddiol ac o werth parhaol ac wrth eu cynhyrchu byddai’n fodd o ddarparu cyflogaeth mewn crefftau sydd wedi’u heffeithio’n andwyol gan y rhyfel. A oes rhywbeth gwell y gellid ei gael i’w calonogi yn eu brwydr nac anrheg o gartref ar Ddydd Nadolig?

Os gwelwch yn dda a wnewch chi fy helpu?

Hwn oedd cais cyhoeddus gan y Dywysoges Mary a lansiodd Gronfa Anrheg Nadolig pan oedd hi’n 17 mlwydd oed er mwyn anfon 498,000 o flychau pres argraffedig i’r rhai oedd yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i ddylunio gan Messrs Adshead a Ramsay, prif nodwedd yr anrheg oedd y blwch pres argraffedig er roedd pob blwch wedi ei lenwi gyda eitemau gwahanol.

Roedd eitemau yn gallu cynnwys tybaco, sigarets, pibell a golauar i ysmygwyr neu melysion a siocled i anysmygwyr. Roedd rhoddion bychain eraill yn cael eu cynnwys, fel pensil bwled. Roedd y rhan fwyaf o’r blychau yn cynnwys cerdyn Nadolig oddi wrth ‘Tywysoges Mary a’i Ffrindiau gartref’ a llun o’r Dywysoges.

Mae’r blwch yma’n cael ei arddangos yn y cas Rhyfel Byd Cyntaf yn Oriel 5.