Blaser CPGC

Defnyddiwyd blaserau fel hyn gan dimau chwaraeon y Brifysgol yn ystod dyddiau cynnar CPGC. Dechreuwyd ddefnyddio’r blaserau yma pan oedd myfyrwyr Rhydychen a Chaergrawnt yn eu defnyddio ar gyfer rhwyfo i gadw’n gynnes. Roeddent hefo lliwiau llachar a streipiau fel bod gwyliwyr yn gallu adnabod eu tîm. Un o’r siacedi cynnar yma – y cotiau “blazing red” o Glwb Cychod Boneddiges Margaret, Caergrawnt – a roddodd yr enw “blaser”. Ymestynodd y defnydd o’r blaserau i dimau chwaraeon Prifysgol yn eu gwisgo fel siacedi cadw’n gynnes a wedyn yn eu gwisgo’n hamddenol mewn digwyddiadau cymdeithasol. Yn y pen draw fe’u defnyddiwyd yn gyffredinol gan bawb a dim yn unig gan dimau chwaraeon.

Gwisgwyd y blaser yma gan Joan Davies (Ayrton yn enedigol) fel aelod o dim 1af hoci merched yn CPGC 1936-40. Cyfeirwyd at aelodau o’r tîm fel y ‘Tiger Tims’.

Mae gan Prifysgol Bangor hanes cyfoethog mewn chwaraeon ac mae’n un o’r 10 aelod sefydlol BUCS (Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion Prydeinig). Mae wedi cystadlu ledled y wlad am dros 100 o flynyddoedd. Mae’r blaser yma yn cael ei harddangos yn y cas cymunedol yn Storiel er mwyn dathlu 100 mlynedd o chwaraeon BUCS a 40 mlynedd o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.