Carthen – o Ffatri Rhydygwystl, Llŷn

 

Carthen a wnaed ym Melin Wlân Rhydygwystl ger y Ffôr, Llŷn. Bu’r felin yn gweithio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg tan 1936 a hi oedd y felin wlân olaf i gau yn Llŷn. Perchennog y garthen oedd y diweddar John Roberts, y Groeslon, cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol a fu farw yn 2016 yn gant oed. Cafodd ei fagu gan ei nain yn Llangian a chredir ei fod yn defnyddio’r garthen hon pan oedd yn blentyn.