Bathodyn heddwch

Nid yr eitem mwyaf amlwg yng nghasgliad Storiel, mae’r bathodyn hwn yn fach iawn – dim ond 30 milimetr mewn diamedr – ond nid yw hynny’n lleihau ei bwysigrwydd fel dogfen gymdeithasol. Mae’n debyg ei fod yn gyfarwydd iawn i lawer o Gymry a fagwyd yn y 1980au, yn ystod cyfnod o godi ymwybyddiaeth a phrotest gwrth-niwclear, rwyf i’n dal i gadw fy un i mewn blwch o hen fathodynnau gartref.

Sefydlwyd yr ymgyrch ar gyfer Diarfogi Niwclear (CND) yn 1958 mewn ymateb i Lywodraeth Prydain yn cytuno i brofi arfau thermonuclear. Sefydlwyd CND Cymru yn 1981. Erbyn 1982 cytunodd cynghorau sir Cymru i wahardd arfau niwclear o’u hardaloedd.

Mae CND Cymru yn gweithio, ochr yn ochr â grwpiau ac unigolion eraill, i gael gwared ar arfau niwclear. Maent hefyd yn ymgyrchu dros heddwch a chyfiawnder i ddynoliaeth a’r amgylchedd, ac yn erbyn y fasnach arfau yn gyffredinol.

Mae’r sefydliad yn dal i fod yn berthnasol ac yn weithredol heddiw, ac mae’n trefnu protestiadau mewn mannau fel Faslane yn yr Alban, yn erbyn llongau tanfor Trident, ac yn erbyn y rhyfel yn Irac. Erbyn heddiw mae gen CND Cymru 1500 o aelodau a dal yn tyfu.