Casgliad Coed a Choed wedi’i Ddifrodi

Mae’r casgliad coed yn cynnwys tua 5400 o samplau ac mae’r casgliad coed wedi’i ddifrodi’n cynnwys tua 500 o samplau. Dechreuwyd ffurfio’r casgliadau hyn fel cymhorthion dysgu ac mae’r ddau ymhlith y casgliadau gorau yn y Deyrnas Unedig.

Mae 2250 o rywogaethau o 864 gwahanol genws o bob rhan o’r byd yn y casgliad coed, gyda chynrychiolaeth dda o goedydd o Affrica drofannol, rhai rhannau o Dde America, ac ardaloedd deheuol Asia yn arbennig. Mae’r casgliad pren wedi’i ddifrodi’n cynnwys samplau wedi’u difrodi gan bryfed a difrod sy’n digwydd yn naturiol mewn coed neu bren wedi’i brosesu.

Cedwir y casgliad coed mewn cypyrddau ag wyneb gwydr ar ben y grisiau ar ail lawr Adeilad Thoday. Mae rhan o’r casgliad pren wedi’i ddifrodi’n  i’w weld yn un o’r darlithfeydd yn Adeilad Thoday.