Casgliad Daeareg

Mae tua 8000 o gerrig a mwynau a 3000 o ffosilau o bedwar ban byd yn y Casgliad Daeareg.

Mae’n cynnwys samplau nodedig o ogledd Cymru, er enghraifft, canfyddiadau unigryw gan Dr Edward Greenly, sef y daearegwr cyntaf i ddisgrifio a mapio daeareg Ynys Môn tua dechrau’r 20fed ganrif.

Cafodd yr enwau a ddefnyddir i ddisgrifio’r raddfa amser ddaearegol ryngwladol (er enghraifft, Cambriaidd, Silwraidd ac Orodfigaidd) eu defnyddio gyntaf gan ddaearegwyr yn gweithio yn y gogledd tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r 20fed ganrif ac mae’r Casgliad Daeareg yn cynnwys llawer o samplau a gasglwyd bryd hynny. 

Gwelir detholiad o’r casgliad yng nghoridor Amgueddfa Hanes Natur Brambell. Yno y mae’r casgliad ffosilau hefyd. Mae gweddill y casgliad yn Adeilad Thoday ar hyn o bryd. 

Nid yw Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn agored i’r cyhoedd yn rheolaidd, ond trefnir dyddiau agored yn achlysurol.