
Er mwyn dathlu canmlwyddiant yr Urdd, crair y mis yma yw baner yr Urdd adran Horeb, cylch Bangor, 1920au-1930au.
Elizabeth Ann Williams, Thomas wedyn, nain y rhoddwraig, a wnaeth y faner. Roedd yn brifathrawes yn ysgol gynradd Bwlchgwyn ger Wrecsam lle y cyfarfu â David Thomas, gwrthwynebydd cydwybodol a oedd wedi symud i Wrecsam i weithio fel gwas ffarm yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Priododd y ddau a symud i Fangor.
Roedd David yn arolygydd ac Elizabeth yn athrawes yn Ysgol Sul capel Horeb y Wesleaid ym Mangor. Roedd cangen gynnar o’r Urdd yn cael ei rhedeg trwy’r Ysgol Sul.
Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Ei amcan oedd i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd Syr Ifan ab Owen Edwards yn fab i O.M. Edwards, Prif Arolygydd cyntaf addysg Cymru a sefydlodd y cylchgrawn misol ‘Cymru’r Plant’ yn 1892. Yn ‘Cymru’r Plant’ 1922 apeliodd Syr Ifan ab Owen Edwards ar blant Cymru i ymuno a sefydliad newydd ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’. Dyma ddechrau newydd yn hanes iaith a diwylliant Cymru.
Sefydlwyd Adran gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn, Sir Fflint ym 1922 a chynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyntaf yng Nghorwen, 1929. Heddiw, mae’r Urdd yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol gyda dros 55,000 o aelodau rhwng 8 – 25 mlwydd oed. Fe’i hadnabyddir yn bennaf am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, clybiau mabolgampau, negeseuon heddwch ac ewyllys da a’i gwersylloedd gan gynnwys Glan-llyn, Bala.
Mae’r faner yn cael ei harddangos yn y cas cymunedol yng nghyntedd Storiel.