Anrheg Sant Ffolant o gregyn yn perthyn i forwr

Prynwyd anrhegion San Ffolant neu arwydd cariad fel y rhain gan forwyr yn Barbados ar eu ffordd adref er mwyn eu rhoi i’w cariadon ar ôl misoedd neu blynyddoedd i ffwrdd ar y môr. Roedd Barbados, un drefedigaethau Prydeinig cynharaf, yn fan ymweld pwysig yn yr Iwerydd o’r 1600au. Gwnaethpwyd yr arwyddion cariad allan o gregyn gan grefftwyr lleol o’r 1750au ac maent yn parhau i’w gwneud hyd heddiw, ond roedd hyn ar ei anterth rhwng 1820 a 1880. Roedd dau frawd o Loegr, Benjamin a George Belgrave, yn berchen ar sio yn Bredgetown, Barbados, ac mae’n debygol mai nhw ddaru gychwyn comisiynu a gwerthu’r rhain mewn ffordd mwy masnachol.

Mae’r anrheg Sant Ffolant o gregyn yma wedi ei gwneud canol yr 19eg ganrif yn Barbado. Gwnaethpwyd y cas wythochrog ffrynt dwbl yma (tydi’r ddelwedd ond yn dangos un ochr – mae’r ochi arall wedi datgysylltu o’r golfach) allan o bren lleol, ac mae’r cregyn a’r had sydd wedi cael eu defnyddio yn frodorol i Barbados. Dim ond tua 35 math o gregyn a ddefnyddiwyd. Roedd y patrymau yn amrywio, ond maent i gyd yn cydymffurfio i steil cymeusrol tebyg, weithiau hefo motif ysgrifenedig yn y canol.

Mae’r anrheg Sant Ffolant o gregyn yma’n cael ei harddangos yn y cas Digwyddiadau Bywyd yn Oriel 4.