Amdan yr Herbariwm

Yn yr Herbariwm, mae dros 30,000 o sbesimenau o blanhigion wedi’u sychu a’u gwasgu, ynghyd â chasgliadau o algâu, ffrwythau a hadau, ac eitemau wedi’u piclo mewn gwirod. Mae’r casgliad yn cynnwys sbesimenau o bedwar ban byd, caiff ei gyfrif yn un o’r 15 gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae’n arbennig o bwysig yng Nghymru.

Daw cryn dipyn o’r eitemau yn y casgliad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’r sbesimen cynharaf yn dyddio o 1799. Ymhlith y casglwyr nodedig mae William a Joseph Hooker (Kew), George Forrest (Caeredin), y llysieuegwyr Cymreig, Evan Roberts a Lloyd Williams ynghyd â llysieuegwyr nodedig o Brifysgol Bangor ei hunan, yn cynnwys yr Athrawon Reginald W. Phillips, David Thoday a Paul Richards. Caiff y rhan fwyaf o brif barthau llystyfiant y byd eu cynrychioli, gyda phwyslais ar rywogaethau brodorol Prydain a detholiad gwych o blanhigion gogledd Cymru. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Casgliad Ynys Enlli a phlanhigion lleol prin fel Lili’r Wyddfa (Gagea serotina) a’r Chweinlys Ysbodol (Tephroseris integrifolia ssp. maritima) sy’n endemig i Ynys Môn.

Mae’r Herbariwm y drws nesaf i’r Amgueddfa Hanes Natur yn Adeilad Brambell. Nid yw’r Amgueddfa Hanes Natur yn agored i’r cyhoedd yn rheolaidd, ond trefnir dyddiau agored yn achlysurol.

Mae Cronfa Bangor yn talu am Brosiect Digideiddio’r Herbariwm  a fydd, yn y pen draw, yn creu catalog dwyieithog ar-lein o luniau digidol da o bob sbesimen.