Baner Yr Urdd, Adran Horeb, Cylch Bangor, 1932

Elizabeth Ann Williams, Thomas wedyn, nain y rhoddwraig, a wnaeth y faner yn yr 1920au neu ddechrau’r 1930au. Roedd yn brifathrawes yn ysgol gynradd Bwlch-gwyn ger Wrecsam lle y cyfarfu â David Thomas, gwrthwynebydd cydwybodol a oedd wedi symud i Wrecsam i weithio fel gwas ffarm yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Priododd y ddau a symud i Fangor.

Roedd David yn arolygydd ac Elizabeth yn athrawes yn Ysgol Sul capel Horeb y Wesleaid ym Mangor. Mynegodd David ei bryder pan aeth nifer disgyblion yr Ysgol Sul o dan gant ac mae hynny’n dangos ei maint. Roedd cangen gynnar o’r Urdd yn cael ei rhedeg trwy’r Ysgol Sul.

[