Het Gymreig, canol y 19eg ganrif

Mae’r hyn yr ydym ni’n ei nabod fel ‘y wisg Gymreig’ wedi’i seilio ar ddillad bob dydd merched yng Nghymru o’r 18fed ganrif, a wnaed o wlân a brethyn lleol. Mae’n cynnwys sgert wlanen grychog drwchus, siaced o’r enw ‘betgwn’ gyda llabedi ychwanegol ar y cefn a’r ochrau, ffedog, siôl a het uchel ddu wedi’i gwisgo dros gapan cotwm ag ymyl crychlyd. Yr het yw’r darn mwyaf nodedig o’r wisg Gymreig. Rhwng 1770au a’r 1830au roedd sawl adroddiad o boblogrwydd hetiau dynion ymysg merched gweithio Cymreig – gan amrywio o hetiau tal ymyl ffelt i hetiau bowler. Y tro cyntaf i’r het ddu dal arbennig gael ei galw’n ‘Het Gymreig’ oedd pan wisgodd y Dywysoges Fictoria a’i mam un wrth ymweld â Bangor yn 1832. Yn Lloegr y caent eu cynhyrchu yn bennaf a hynny tan yr 1880au ond mae rhai ar ôl a gafodd eu gwneud yng Nghymru. Roedd yn arferiad i’r hetiau gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.

Ymddangosodd het uchel neu het ‘simdde’ fel hon o gwmpas 1840au. Gwisgwyd yr het yma gan Annie Jones, gwraig Lewis Jones, Tyddyn y Graig, Tabor, Dolgellau o gwmpas 1860.

Mae het Gymreig arall yn cael ei harddangos yn Oriel 3.