Hynafiaethau Cymreig y Brifysgol

Amgueddfa pynciau cymysg oedd yr Amgueddfa’n wreiddiol a’r casgliadau’n adlewyrchu’r pynciau oedd yn cael eu dysgu yn y Brifysgol. Yn eu plith roedd sŵoleg, daeareg a llysieueg yn ogystal â hanes Cymru. A hithau’n rhan o’r coleg, câi gefnogaeth frwd gan y gymuned leol. Yn 1894 cafodd yr hysbyslen a ddangosir isod ei hargraffu. Y Brifysgol oedd yn rhedeg yr Amgueddfa tan 1989. Tan hynny, roedden nhw’n darparu gofod i gadw’r casgliadau, cymorth ariannol a phobl oedd yn gyfrifol am ddatblygu a meithrin y casgliad. Erbyn heddiw, mae’r Brifysgol a Chyngor Gwynedd yn rhannu cyfrifoldeb am yr Amgueddfa.

Hysbyslen Amgueddfa CPGC, 1894

Seremoni agoriadol CPGC, Bangor yn y Penrhyn Arms, 1894

Agoriad CPGC, Bangor, gorymdaith masnachau, 1894

 

Adeilad CPGC, Ffordd y Coleg, agorwyd yn 1911