Setl

Gwnaethpwyd y setl dderw hon gan Richard Davids o Gaernarfon rhwng 1889- 1894. Rhodd ydoedd i Syr William Preece, un o arloeswyr maes technoleg di-wifr. Defnyddiwyd derw cerfiedig cynnar o hen eglwysi, tai a thafarndai o ddalgylch Caernarfon. Gadawodd Richard Davids, a oedd yn hen ffrind ysgol i Syr William Preece, nodiadau a diagram yn nodi tarddiad y darnau. Defnyddiodd ddarnau o sawl lleoliad gwahanol, ac mae’n bosib bod i’r lleoliadau hyn atgofion a chysylltiadau personol iddo.

Mae cledrau uchaf ac isaf cefn y setl, y coesau, y sedd a’r rhan flaen o dan y sedd yn tarddu o Gefnycoed. Mae panel uchaf gothig y cefn, y cledrau canol a dau o’r darnau llorwedd sy’n eu cysylltu yn tarddu o Eglwys Llanllyfni. Daw’r darnau eraill o Eglwys Boduan, Plas Puleston, Caernarfon a thafarndy’r Old England, Caernarfon. Daw’r ddau banel ar y cefn o hen gistiau o Foduan, a’r ddau banel mewnol o hen gistiau o ogledd Lloegr. Daw’r breichiau o Eglwys Beddgelert, y cledrau isel o dan y sedd o Dŷ Isaf, Waunfawr a ffermdy o gyffiniau Llanddeiniolen a daw darnau eraill allan o hen dai yng Nghaernarfon a hoelbrennau a phinnau o do Eglwys Llanbeblig. Yn ôl y sôn, mae rhan o’r panel uchaf wedi’i wneud allan o ddarn o wely’r Tywysog Llywelyn.

Bydd y setl yn cael ei harddangos yn yr arddangosfa ‘Newydd Eto’ fydd yn arddangosfa dros dro yn Storiel o fis Tachwedd 2018.